Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021-25) ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar Strategaeth Newid Ymddygiad y Cyhoedd. Mae gwaith ymgysylltu effeithiol â'r cyhoedd yn llywio ein ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar bobl o ran yr argyfwng hinsawdd. Fy mwriad yw annog pobl a chymunedau Cymru i gymryd rhan weithredol a mynd ati i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Strategaeth Ddrafft ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Gweithredu gan y Cyhoedd ar Newid Hinsawdd (2022-2026). Bydd y strategaeth hon yn destun cyfnod ymgynghori o 8 wythnos rhwng 20 Hydref a 14 Rhagfyr. Bydd yn ganolog i Wythnos Hinsawdd Cymru rhwng 21 a 25 Tachwedd hefyd. Rwy'n disgwyl cyhoeddi fersiwn derfynol y strategaeth yn y flwyddyn newydd.

Er bod y gwaith o ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Gweithredu gan y Cyhoedd ar Newid Hinsawdd (2022-2026) wedi'i ysgogi gan yr ymrwymiad yn Cymru Sero Net i gynnwys aelodau cymdeithas mewn camau i ddatgarboneiddio, mae hefyd yn nodi pwysigrwydd meithrin mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch yr angen i addasu ein cartrefi a'n cymunedau i effeithiau anochel newid hinsawdd. Mae'r strategaeth hefyd yn adlewyrchu:

  • y gydberthynas bwysig rhwng yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur;
  • y ddwy her o fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a newid hinsawdd;
  • pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol o ran sut rydym yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd