Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae'n bleser heddiw cyhoeddi ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 10 mlynedd newydd, a'r cynllun cyflawni cysylltiedig.
Mae'r strategaeth yn benllanw mwy na 18 mis o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a phobl â phrofiad bywyd, ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus estynedig.
Wrth wraidd y strategaeth mae ymyrryd yn gynnar, atal, a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math mwyaf priodol o gymorth ar yr adeg iawn, heb oedi.
Byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar 6 Mai 2025.