Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o allu cyhoeddi heddiw Strategaeth Profi COVID-19 i Gymru ddiwygiedig (https://llyw.cymru/strategaeth-profi-covid-19) a Fframwaith Profi Cymunedol newydd (https://llyw.cymru/fframwaith-profi-am-covid-19-yn-y-gymuned), sy’n amlinellu’r cymorth a gynigir gennym ar gyfer profi cymunedol ac sy’n gwahodd byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i weithio gyda phartneriaid Profi Olrhain Diogelu i ddatblygu cynigion a arweinir yn lleol

Pan gyhoeddwyd ein Strategaeth Profi COVID-19 ym mis Gorffennaf 2020, roeddem yn dod allan o’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yn dilyn ton gyntaf y pandemig COVID-19. Wrth i lefel gyffredinrwydd COVID-19 barhau’n uchel a chydag ymddangosiad yr amrywiolyn newydd, sydd wedi ein gorfodi i weithredu cyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, mae profi yn parhau i chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein dull cyffredinol o atal trosglwyddiad COVID-19 ledled Cymru.  

Ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf, mae technoleg brofi newydd wedi dangos ei bod yn bosibl inni brofi ar raddfa lawer fwy, ac yn amlach a chyflymach nag erioed o’r blaen. Mae’r strategaeth ddiwygiedig hon yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio technoleg sy’n bodoli eisoes ynghyd â thechnoleg newydd yn effeithiol i fodloni ein blaenoriaethau profi, sydd fel a ganlyn:

  • Profi i roi diagnosis
    • i gefnogi gofal clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mae profi yn helpu i ddod o hyd i’r rheini sydd wedi’u heintio er mwyn i benderfyniadau clinigol gael eu gwneud sy’n sicrhau’r gofal gorau.
  • Profi i ddiogelu
    • i ddiogelu ein GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed.
  • Profi i ddarganfod
    • i dargedu brigiadau o achosion a gwella arferion gwyliadwriaeth yn y gymuned er mwyn atal lledaeniad y clefyd ymhlith y boblogaeth.
  • Profi i gynnal
    • i gefnogi’r system addysg ac iechyd a llesiant ein plant a phobl ifanc i’w galluogi i gyrraedd eu potensial, ac i ddod o hyd i achosion a chysylltiadau yn y gweithle i’w hatal rhag lledaenu’r haint o bosibl pe baent yn dod yn heintus, ac i gynnal gwasanaethau allweddol.  
  • Profi i alluogi
    • i hybu llesiant ac adferiad economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

Wrth inni groesawu 2021 bydd atal trosglwyddiadau COVID-19 yn effeithiol yn parhau i fod yn gwbl hanfodol er mwyn rheoli’r feirws. Mae’n bwysig bod unigolion yn dal i drefnu i gael prawf pan fydd ganddynt symptomau. Rydym yn profi i atal niwed a chefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed ac rydym yn rhagweithiol yn ein hymdrechion i ddod o hyd i achosion o’r feirws er mwyn inni allu helpu i leihau neu atal lledaeniad y feirws yn ein cymunedau. O ystyried nad oes gan draean o’r unigolion hynny sy’n cael canlyniad prawf positif unrhyw symptomau, a bod nifer y rheini sy’n cael prawf mewn rhai cymunedau yn isel, mae angen inni ddefnyddio, mewn rhai cyd-destunau penodol, ddulliau mwy rhagweithiol o ddod o hyd i achosion o’r feirws.

Bydd profi cymunedol yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac yn manteisio ar wybodaeth leol i dargedu ardaloedd lle y bydd dulliau rhagweithiol o ddod o hyd i achosion yn cael yr effaith fwyaf o ran lleihau niwed.

Mae partneriaid eisoes yn cydweithio ac yn rhannu arferion yn effeithiol ond byddwn yn parhau i sicrhau y cyflawnir ein strategaeth brofi gan gynyddu capasiti i’r eithaf, rheoli heriau o ran adnoddau a lleihau cymhlethdod yn y system. Bydd hefyd yn esblygu yn barhaus i ymateb i’r heriau a wynebwn yn y dyfodol oherwydd bydd profi yn parhau i chwarae rhan bwysig ochr yn ochr â brechu i’n cefnogi i achub bywydau a bywoliaeth pobl yn ystod 2021 ac yn y tymor hwy.   

Mae’r 10 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bawb. Hoffwn i ddiolch i bob un am eich cefnogaeth, wrth ichi ddilyn y cyfyngiadau sydd wedi gorfod cael eu gweithredu. Mae eich cefnogaeth barhaus yn hanfodol i ddiogelu Cymru.