Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol gyntaf Llywodraeth Cymru sy'n cwmpasu 2016 i 2021. Gan ystyried cysylltiad agos eu gwaith, rwyf hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2015-16 y Gweithgor Asedau Cenedlaethol (GAC).

Mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru asedau eiddo sylweddol sy'n gwneud cyfraniad canolog i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Gan ystyried y mesurau cyni parhaus a orfodir ar y Llywodraeth hon, mae cyfrifoldeb arnom i reoli asedau'n effeithlon, yn effeithiol o ran cost ac i gael y portffolio asedau cywir ar waith i gefnogi ein hamcanion polisi ac i ddarparu'r gwasanaethau rydym yn gyfrifol amdanynt. Ar yr un pryd, mae angen i ni sicrhau'r manteision gorau posibl o'r asedau hynny.

Mae ein Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol yn gosod dull 5 mlynedd cadarn newydd i wireddu potensial asedau eiddo'r Llywodraeth a'u defnyddio ochr yn ochr ag adnoddau ariannol wrth gyflawni amcanion polisi. Yn allweddol, mae'r Strategaeth yn defnyddio arferion gorau i sefydlu pedwar egwyddor arweiniol lefel uchel a fydd yn berthnasol ledled y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn datblygu ac yn cynnal dull unedig, deallus a hwylus ar gyfer defnyddio a rheoli ein hasedau.

Yn bwysig, bydd y dull corfforaethol newydd hwn nid yn unig yn creu newid sylweddol yn ymagwedd y Llywodraeth hon tuag at ddefnyddio a rheoli asedau, bydd hefyd yn cyflawni yn erbyn yr argymhellion a dderbyniwyd o Adolygiad Asedau y Pwyllgor Cyllid 2013. Mae'n hyrwyddo cydweithio ac amlygrwydd yr adnoddau yn ogystal â sefydlu arferion craffu a fydd yn herio defnydd, effeithiolrwydd, a chadw ein hasedau tir ac eiddo. Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi'r Gweinidogion i wneud dewisiadau doeth ynghylch defnyddio asedau a chaffaeliadau i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.

Yn y tymor hwy, bydd fy swyddogion yn edrych ar y manteision posibl o weithredu egwyddorion y dull hwn i ystad ehangach y sector cyhoeddus yng Nghymru sydd werth tua £12 biliwn trwy waith y GAC.

Mae'r GAC, a sefydlwyd yn 2010, yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n uno arweinyddiaeth strategol gyda'r bwriad o alluogi a dylanwadu ar ddull ar y cyd o reoli asedau, gan felly ryddhau'r gwerth gorau posibl o'n hasedau'r sector cyhoeddus. Ni fu rôl y GAC erioed yn bwysicach o ystyried yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni. Bydd defnyddio asedau presennol y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol yn hollbwysig er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithlon, effeithiol a chydgysylltiedig.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn amlinellu gwaith y GAC yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2015 – 31 Mawrth 2016, a'r nod yw gwella effeithiolrwydd drwy gydweithredu. Mae'r GAC wedi cynhyrchu a chefnogi datblygiad nifer o ddulliau allweddol i helpu i sicrhau effeithiolrwydd gwell. Mae'r llwyddiannau allweddol yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • Datblygu cyfres o ddangosyddion eiddo ar gyfer swyddfeydd, sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol ag un o argymhellion y Pwyllgor Cyllid a dderbyniwyd. Bydd hyn yn golygu ffordd effeithiol a thryloyw o feincnodi perfformiad swyddfeydd y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • Ailddatblygu a lansio gwefan Asedau Cymru fel adnodd mynediad agored ar y we. Diben y presenoldeb newydd hwn yw rhoi gwybodaeth am bob agwedd ar arferion da rheoli asedau, ac mi fydd yn cynnwys y Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol
  • Adolygu 'Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru: Canllawiau Arferion Gorau' i gynnwys adborth a chyfraniadau gan randdeiliaid sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r rheini sy'n caffael eiddo trwy drosglwyddiadau asedau cymunedol, yn ogystal â'r rheini sy'n caffael asedau'r sector cyhoeddus trwy drosglwyddiadau o'r fath.

Bydd y Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol newydd yn darparu fframwaith cryf i ddatblygu dull mwy cadarn ac integredig o reoli asedau ledled Llywodraeth Cymru a sicrhau y caiff gwerth a phwysigrwydd ein hasedau eiddo eu cydnabod yn glir.