Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi taliadau cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn 2024.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion aruthrol ffermwyr organig i adeiladu busnesau sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol. Ar ffermydd o'r fath, heb os, bydd yr arferion rheoli tir cynaliadwy a ddefnyddir wedi bod o fudd i'r ecoleg leol, yn aml mewn ardaloedd sy'n agored i golli bioamrywiaeth. Rwyf hefyd yn deall, mewn llawer o amgylchiadau, fod hyfywedd daliadau organig yn dibynnu ar dderbyn premiwm am y cynnyrch organig, nad yw bob amser ar gael.

Bydd y Taliad Cymorth Organig yn rhoi cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn ystod y cyfnod pontio cyn gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gwneir ceisiadau am y Taliad drwy'r Ffurflen y Cais Sengl, sydd i'w chyflwyno erbyn 15 Mai 2024. Bydd y Taliad ar gael i bob ymgeisydd organig sydd wedi'i ardystio'n llawn, ac nid dim ond i'r rhai a oedd yn rhan o Gynllun Organig Glastir blaenorol. 

Mae cyfraddau talu, meini prawf cymhwystra a chanllawiau ar sut i wneud cais wedi cael eu cyhoeddi. Cyfrifwyd y cyfraddau talu yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol anodd rydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd, wrth dargedu cymorth i'r sectorau lle bydd ffermio organig yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf ar yr amgylchedd. 

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'n hamcanion rheoli tir cynaliadwy ac mae'r Taliad hwn yn tystio i'n cefnogaeth i ffermydd sy'n ymgymryd â chamau gweithredu i gyflawni'r amcanion hyn.