Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi terfyn uchaf o £238 miliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol er mwyn darparu'r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2022 ag a ddarparwyd yn 2020 a 2021.

Mae'r gyllideb yn darparu'r un cyfanswm o daliadau drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau cysylltiedig. Mae'n parhau i ystyried y ffordd symlach newydd o gyfrifo’r BPS heb y Taliad Gwyrddu ar wahân.

Ar 27 Hydref, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru yn cael £252.19 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol ym mlwyddyn ariannol 2022/23 yn lle cyllid o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae hynny’n golygu bod ffermwyr Cymru wedi colli  £106 miliwn yn rhagor, ar ben y £137 miliwn o gyllid na ddarparwyd y llynedd. Mae hynny’n creu heriau gwirioneddol o ran mynd i'r afael â'r materion y mae’n cymunedau gwledig yn eu hwynebu wrth inni ymadael â’r UE a pharhau i fynd i’r afael â'r pandemig. Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i gymorth i ffermwyr o gofio’r heriau hynny.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os yw’r aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.