Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma ddatganiad i ddiweddaru Aelodau'r Senedd am flwyddyn ola’r taliadau BPS i ffermwyr cyn agor y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Caiff system gymorth newydd i ffermwyr ei dylunio ar gyfer ein sefyllfa ni yma yng Nghymru ac i helpu ffermwyr i wneud eu rhan i ddiogelu Cymru rhag effeithiau’r argyfwng natur a hinsawdd. Bydd y cymorth ariannol a roddir i ffermwyr eleni yn helpu i sicrhau newid teg a chyflym i ffurfiau newydd ar gymorth i ffermwyr yn y blynyddoedd i ddod. 

Mae mwy na 97% o hawlwyr wedi derbyn taliad llawn neu ail daliad BPS 2023. Mae dros 15,800 o fusnesau fferm yng Nghymru wedi cael taliadau gwerth £71.2m, yn ogystal â'r gwerth £160m o ragdaliadau BPS sydd wedi'u talu ers 12 Hydref. Bydd fy swyddogion wrthi'n gweithio'n galed i brosesu'r hawliadau BPS 2023 sy'n weddill. Rwy'n rhagweld y bydd pawb, heblaw am yr achosion mwyaf cymhleth, wedi cael eu talu'n llawn erbyn 30 Mehefin 2024. 

Heddiw, gallaf gadarnhau y bydd cyllideb o £238 miliwn ar gael i dalu taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2024, yr un lefel â thros y pedair blynedd diwethaf, hynny er gwaetha’r gostyngiad yn y cymorth i ffermwyr gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Cyn belled â bod trefniadau ariannu Llywodraeth y DU i Gymru ar ôl cyfnod yr arolwg gwariant presennol yn rhai teg, lefelau BPS 2024 fydd y sail ar gyfer pennu taliadau’r cyfnod pontio i’r SFS. 

Rydym wedi cadw cyllideb BPS 2024 ar £238m, yr un lefel â 2023, yn union fel yr oeddem wedi bwriadu ei wneud. Wrth i ni addasu i fywyd y tu allan i'r UE - ac ar ôl BPS - mae’r sector amaeth yn cael ei weddnewid. Bydd cymorth Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n gyson â’n hamcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Bydd ein cymorth yn helpu ffermwyr a’r gadwyn gyflenwi i wneud y sector cynhyrchu bwyd yng Nghymru’n fwy economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gydnerth. Mae hi’n ddyddiau ansicr ac anodd arnom ni. Ond gallwn fod yn sicr bod yn rhaid newid ac o ymrwymiad cadarn y llywodraeth hon i gefnogi ffermwyr i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd. 

Rydym wedi gwrando ar ffermwyr a'u cynrychiolwyr am bwysigrwydd cadw rhywfaint o sefydlogrwydd yn y flwyddyn cyn cyflwyno'r SFS. Dyna pam rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i gadw terfyn uchaf y BPS i £238m ar gyfer 2024. O ystyried y pwysau aruthrol ar draws cyllidebau Llywodraeth Cymru, nid ar chwarae bach y gwnaed hyn.

Byddwn yn parhau i helpu'r sector i symud yn ofalus o'r BPS o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Ni fyddwn yn agor nac yn cau cynlluniau ar hap, fel y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr. Yn unol â’r cyhoeddiad am y BPS heddiw, byddwn yn parhau i weithio mewn ffordd ddibynadwy a rhagweladwy i chwyldroi’r cymorth a roddir i ffermwyr, hynny er lles cymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.

Ar ôl degawd o bolisi o gynni gan Lywodraeth y DU, nid yw ein setliad ariannol yn ddigon i ymateb i'r gwasgfeydd aruthrol sy'n pwyso ar Gymru. Ar ôl blynyddoedd o berfformiad economaidd gwael yn y DU a ‘mini-gyllideb’ drychinebus 2022, mae’r DU yn wynebu argyfwng costau byw, chwyddiant uchel a phwysau aruthrol ar y gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru felly yn werth £1.3bn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd ei phennu yn 2021.  

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod o hyd ac o hyd i adolygu’r fethodoleg ar gyfer ariannu ffermydd a rhoi i Gymru yr holl arian y byddem wedi'i gael pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2021, cyhoeddodd Canghellor y DU y byddai Cymru'n derbyn £243 miliwn yn llai ar gyfer cymorth amaethyddol dros 3 blynedd, o'i gymharu â'r hyn y byddem wedi rhagweld ei gael pe baem yn dal i gymryd rhan yn rhaglenni Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. 

Mae methiant Llywodraeth y DU i newid lefelau ariannu i ymateb i gostau uwch yn dwysáu effaith eu camreolaeth ar yr economi ar ffermwyr yng Nghymru. Mae'r heriau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd yr angen i bontio i system newydd o gymorth sy'n decach ac sy’n hyrwyddo dulliau mwy effeithiol o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan wella perfformiad busnesau a chanlyniadau amgylcheddol. 

Wrth lunio'r Gyllideb Ddrafft hon, bu'n rhaid inni wneud penderfyniadau eithriadol o anodd – y rhai mwyaf poenus a brathog ers datganoli. Ni fu’n flwyddyn llawn dewisiadau positif ynglŷn â ble i dargedu a chynyddu buddsoddiad.

Rydym wedi newid ein cyllideb yn llwyr er mwyn gallu targedu cyllid at y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru – i fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a diogelu setliad craidd llywodraeth leol, sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill yr ydym yn dibynnu arnynt.

Rydym wedi ail-lunio ein cyllidebau yn unol â set o egwyddorion sylfaenol – diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd gymaint â phosibl; sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf; blaenoriaethu swyddi ble bynnag y bo modd, a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill y sector cyhoeddus i wynebu'r storm ariannol hon gyda'n gilydd.

Er gwaethaf hyn, rwy'n falch ein bod wedi gallu cadw at ein bwriad a diogelu cyllideb BPS 2024. Mae ein hymrwymiad i gefnogi newidiadau mawr i arferion ffermio yn parhau, er mwyn gwarchod dyfodol y sector a’n treftadaeth naturiol. Mae’n enghraifft o’r modd y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i roi ein gwasanaethau cyhoeddus, pobl, busnesau a chymunedau yn gyntaf.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny