Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw bod Wylfa ar Ynys Môn wedi’i dewis fel safle gorsaf bŵer niwclear Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) gyntaf y DU, gan gydnabod gwaddol ac arbenigedd cryf yr ardal yn y maes niwclear. 

Fel rhan o’r Strategaeth Ddiwydiannol, y prosiect hwn yw’r cyntaf o’i fath a disgwylir iddo gynnal dros 3,000 o swyddi o ansawdd uchel yn y gymuned gyda buddsoddiad cychwynnol o £2.5bn yn y Gogledd-orllewin. Gan ddibynnu ar y trafodaethau contract sydd ar y gweill rhwng Great British Energy – Nuclear (GBE-N) a Rolls Royce (RR) SMR, cytunir ar ragor o fuddsoddiad i gwblhau’r cam cyntaf. 

Bydd y safle yn gartref i 3 adweithydd Rolls Royce i ddechrau, gyda lle i 5 adweithydd arall yn y dyfodol. Nid oes angen cymaint o amser i adeiladu SMR â rhai gorsafoedd niwclear traddodiadol am fod y modiwlau’n cael eu cynhyrchu mewn ffatrïoedd a’u rhoi at ei gilydd ar y safle. Disgwylir i bob adweithydd gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer 1,000,000 o gartrefi. Mae’r Gogledd, sy’n enwog am ei ddyfnder a’i gryfder mewn gweithgynhyrchu uwch, yn lle delfrydol i gefnogi cynhyrchu modiwlau SMR yng Nghymru, y DU a thramor. 

Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Barth Twf AI y Gogledd, partneriaeth rhwng Stena Line, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) a Grŵp Llandrillo Menai. Disgwylir iddo greu 1,200 o swyddi gyda’r potensial i ddenu buddsoddiad mewn AI ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yn Nhrawsfynydd. 

Mae hyn yn gam tua’r dyfodol, gan gynnig swyddi diogel ac ynni sicr ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’n adeiladu ar y statws Porthladd Rhydd a roddwyd i Fôn ac yn ategu’r buddsoddiad yng ngweddill y rhanbarth, gan gynnwys ym Mharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n foment bwysig ac yn adlewyrchu gwaith y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn pwyso o blaid Wylfa fel safle. Bydd yn ennyn hyder buddsoddwyr ac yn cyfrannu at greu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy’n adeiladu ar gryfderau Cymru.