Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi Cynllun Cyflawni Teithio Llesol 2024-27.

Mae ymrwymiad yn ein Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol (NTDP), y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yn nodi'n fanylach sut y byddwn ni a'n partneriaid cyflenwi yn gweithredu'r ymrwymiadau teithio llesol yn Llwybr Newydd a'r NTDP.

Nod y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yw cynyddu newid moddol trwy wneud teithio llesol yn haws cael mynediad ato, yn fwy deniadol i'w ddefnyddio ac yn fwy cynhwysol. Mae yn rhoi manylion y prif gamau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r nod hwn ar draws ein pedwar maes cyflawni allweddol:

Arwain y newid — Er mwyn cyflawni'r newid mawr hwn mae angen arweinyddiaeth glir a chyson. Mae ein cynllun yn nodi sut y byddwn yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i'n harweinwyr.

Cynyddu ein darpariaeth — Byddwn yn darparu rhaglenni strategol newydd i wneud y mwyaf o'r gallu a'r capasiti i gyflwyno cynlluniau o ansawdd uchel a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y nifer sy'n manteisio ar deithio llesol.

Dangos beth all teithio llesol ei gyflawni — Byddwn yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau i ddangos y manteision y gall buddsoddi mewn teithio llesol eu sicrhau.

Gwneud teithio llesol y dewis cyntaf ar gyfer mwy o deithiau — Byddwn yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn teithio llesol i'n galluogi i gyflwyno rhaglen gynhwysfawr, creu'r amgylchedd cywir a darparu'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer mwy o deithiau trwy deithio llesol.

Gellir gweld y cynllun llawn yma: Cynllun cyflawni teithio llesol 2024 i 2027