Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad ar y Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol gorfodol. Mae'r ymateb wedi'i gyhoeddi ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, yr Adran Amaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig, Gogledd Iwerddon, a Llywodraeth yr Alban.

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad ar y cyd a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2022 ac mae adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu'r gwasanaeth olrhain gwastraff digidol.  Cafodd crynodeb o'r ymatebion ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwethaf. 

Rydym yn defnyddio'r ymatebion i'r ymgynghoriad i adolygu a mireinio ein cynigion a fydd wedyn yn cael eu hadlewyrchu mewn is-ddeddfwriaeth ac yn llywio’r broses ddylunio ddigidol ar gyfer gwasanaeth olrhain gwastraff ledled y DU.