Huw Irranca-Davies, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) (sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi dau ymateb i ymgyngoriadau ETS y DU heddiw.
Y cyntaf yw Ymateb yr Awdurdod i'r ymgynghoriad ar ymestyn cap ETS y DU y tu hwnt i 2030. Ers lansio ETS y DU yn 2021, mae'r Awdurdod wedi gweithio i ddatblygu ac ehangu'r Cynllun yn unol ag ymrwymiadau sero net ledled y DU. Mae'r ymateb hwn yn cadarnhau penderfyniad yr Awdurdod i ymestyn ETS y DU, gan barhau i sbarduno datgarboneiddio y tu hwnt i 2030 wrth gefnogi diwydiannau yn y trawsnewidiad i sero net erbyn 2050.
Ar hyn o bryd mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn darparu i ETS y DU weithredu tan ddiwedd y cyfnod masnachu presennol ar 31 Rhagfyr 2030 (Cam I ETS y DU). Er mwyn sicrhau bod ETS y DU yn parhau i weithredu ar ôl 2030, bydd y Cynllun yn cael ei ymestyn i Gam II ETS y DU i ddechrau ar 1 Ionawr 2031. Bydd Cam II ETS y DU yn para am 10 mlynedd rhwng 1 Ionawr 2031 a 31 Rhagfyr 2040. Mae'r Awdurdod hefyd wedi penderfynu caniatáu bancio lwfansau[1] rhwng Camau I a II o ETS y DU. Bydd hyn yn ymestyn darpariaethau hyblygrwydd presennol y Cynllun ac yn rhoi mwy o gyfle i gyfranogwyr fanteisio ar opsiynau lleihau tymor hwy.
Mae'r Ymateb hwn gan yr Awdurdod yn ymwneud ag ymestyn y cynllun y tu hwnt i 2030. Nid yw'n cynnig llwybr penodol ar gyfer Cam II ETS y DU. Cyn deddfu i ymestyn y Cynllun, bydd yr Awdurdod yn ymgynghori ar fanylion proffil cap Cam II manwl. Byddwn yn ceisio ymgynghori eto ar lwybr penodol ar gyfer cap Cam II cyn gynted â phosibl. Bydd y cap Cam II yn cael ei osod yn ddigon cynnar cyn dechrau Cam II ar 1 Ionawr 2031 i ddarparu'r sicrwydd gofynnol i gyfranogwyr.
Yr ail gyhoeddiad yw Ymateb yr Awdurdod i ymgynghoriad ETS y DU: Polisi Marchnadoedd y Dyfodol, a adolygodd bolisi marchnadoedd er mwyn sicrhau bod ETS y DU yn parhau i fod yn addas i'r diben a'i fod yn effeithiol wrth reoli'r risgiau sy'n wynebu cynllun sefydledig sy'n dal i aeddfedu. Mae'r ymateb yn ystyried rhyngweithiadau â'r cyhoeddiad ar 19 Mai 2025 y bydd y DU a'r UE yn gweithio tuag at sefydlu cyswllt rhwng ETS y DU ac ETS yr UE. Mae'n cadarnhau mai dim ond yng nghyd-destun cynllun annibynnol domestig y bydd newidiadau i bolisi marchnadoedd yn berthnasol. Bydd polisi marchnadoedd mewn cynllun cysylltiedig yn cael ei bennu trwy drafodaethau parhaus rhwng yr UE a'r DU.
Mae'r ymateb yn nodi'r penderfyniad i gadw Pris Cadw ar gyfer Arwerthiannau (ARP) a'i ddiogelu rhag chwyddiant. Cyflwynwyd yr ARP yn 2021 ac ar hyn o bryd mae'n gosod isafbris cynnig o £22 mewn arwerthiannau. Mae'r ymateb yn cadarnhau y bydd cynnydd cychwynnol yn seiliedig ar chwyddiant yn 2026 o £22 i £28 gyda chynnydd blynyddol yn seiliedig ar chwyddiant o 2027 ymlaen. Mae hyn yn cywiro'r gostyngiad mewn termau real yr ARP ers iddo gael ei gyflwyno ac yn sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu signal o isafswm pris hirdymor i gyfranogwyr y farchnad.
Bydd polisïau marchnadoedd presennol eraill yn cael eu cynnal gan y byddai newidiadau pellach yn gofyn am ddiwygiadau technegol cymhleth a allai gael eu heffeithio gan drafodaethau cysylltu. Mae'r ymateb yn adlewyrchu'r penderfyniadau polisi y mae'r Awdurdod yn eu hystyried yn gymesur i gefnogi marchnad annibynnol effeithiol tra bod trafodaethau i gysylltu ETS yr UE a'r DU yn parhau.
Bydd y newidiadau i'r rheolau hyn yn gofyn am newidiadau i Reoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2021 (“y Rheoliadau Arwerthu”), y bydd Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hwy yn Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 drwy bŵer galluogi o fewn Deddf Cyllid 2020. Mae'r Rheoliadau Arwerthu yn rhan o fframwaith ETS y DU ac maent yn nodi dyluniad yr arwerthiant, gan gynnwys y pris clirio arwerthiant. Bydd fy swyddogion a'n Gwasanaethau Cyfreithiol yn ymwneud ag adolygu'r gwaith o ddrafftio Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 a byddaf yn diweddaru Aelodau eto pan fydd yr OS yn cael ei osod, sydd ar hyn o bryd wedi'i anelu at fis Mawrth 2026.
At ei gilydd, rwyf o'r farn bod Cynllun Masnachu Allyriadau y DU yn parhau i fod yn ysgogiad polisi dylanwadol iawn er mwyn cyflawni sero net yng Nghymru a'i fod yn blatfform hanfodol er mwyn annog busnesau i fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio a'u mabwysiadu. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn rhan o ddatblygiadau parhaus i fireinio'r cynllun, gan ein galluogi i greu trefniadau mwy cadarn a fydd yn cymell arloesedd, yn sbarduno gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn sicrhau dyfodol gwydn a chynaliadwy i Gymru.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am yr ymgyngoriadau hyn.
[1] Mae bancio yn golygu prynu lwfans mewn blwyddyn benodol ar gyfer ildio yn y blynyddoedd dilynol. Mae hyn yn sicrhau y gall lleihau allyriadau ddigwydd ar y gost leiaf, trwy gefnogi cyfranogwyr i fodloni eu rhwymedigaethau prynu ac ildio o dan y Cynllun mor hyblyg â phosibl, gan ddatgarboneiddio eu gweithrediadau pan fydd yn rhataf gwneud hynny.
