Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 4 Awst fe gyhoeddais Adroddiad yr Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Heddiw, mae’n bleser gen i ddatgan fy mod yn cyhoeddi ymatebion i argymhellion y grŵp adolygu.  Eto, rwy’n ategi fy niolch i Steve Morris a’i dîm am baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n cyflwyno argymhellion clir i ni ystyried wrth i ni agosáu at ail dymor y Ganolfan.

Rwy’n hapus iawn o fedru derbyn y 22 o argymhellion oedd yn yr adroddiad. Maent wedi cael eu rhannu i 5 categori: Y Ganolfan fel dylanwadwr strategol; ehangu cylch gwaith y Ganolfan; darpariaeth y Ganolfan; rheoli gwybodaeth y Ganolfan; a gwaith y Ganolfan yn meithrin partneriaethau. Mae’r ymatebion i’r argymhellion yn nodi’r gwaith sy’n digwydd neu sydd mynd i ddigwydd i roi’r argymhellion ar waith.

https://llyw.cymru/ymateb-i-argymhellion-yr-arolwg-ir-ganolfan-dysgu-cymraeg-genedlaethol