Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Ers mis Ebrill 2019, mae gan Gymru y pŵer i osod cyfraddau treth incwm Cymru. Fodd bynnag, ers hynny, mae trethdalwyr yng Nghymru wedi talu’r un lefel o dreth incwm â threthdalwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae datganoli’r dreth incwm yn rhannol wedi cael effaith sylweddol gadarnhaol ar y refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi gwariant cyhoeddus dros y cyfnod gwariant hwn. Y ffaith bod sylfaen treth incwm yng Nghymru wedi tyfu’n gyflymach nag y mae wedi’i wneud yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd i gyfrif am hyn. O ganlyniad, mae cyllideb Cymru £360m yn uwch yn 2026-27 nag y byddai wedi bod pe na fyddai’r dreth incwm wedi cael ei datganoli’n rhannol.
Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â’r honiadau a wnaed gan rai y byddai datganoli’r dreth incwm yn cael effaith negyddol ar sefyllfa gyllidol Cymru.
Serch hynny, amlygwyd hefyd yn ystod y cyfnod hwn derfynau datganoli’r dreth incwm yn rhannol. I godi refeniw sylweddol, rhaid naill ai cynyddu’r gyfradd sylfaenol, sy’n effeithio’n bennaf ar bobl sydd ar incwm cymedrol, neu gynyddu’r cyfraddau uwch neu ychwanegol o gryn dipyn. Gallai gwneud hynny gael effaith arwyddocaol ar ymddygiad ac erydu refeniw. Byddai unrhyw ostyngiad mewn cyfraddau yn lleihau refeniw ac yn tanseilio buddsoddiad yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau sylweddol.
Ym mis Mawrth 2025, comisiynais ymchwil annibynnol i edrych ar yr opsiynau ar gyfer mesurau amgen i ddatganoli’r dreth incwm. Mae’r tîm ymchwil o Sefydliad Fraser of Allander a Phrifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu hadroddiad Opsiynau am ddyfodol datganoli treth incwm yng Nghymru heddiw. Hoffwn ddiolch i’r tîm am ansawdd ac eglurder eu dadansoddiad.
Mae’r dadansoddiad yn amlygu nad oes un system benodol sy’n rhagori ar gyfer datganoli’r dreth incwm. Cyn gwneud unrhyw newid, byddai’n rhaid taro cydbwysedd rhwng yr awydd am fwy o reolaeth a hyblygrwydd polisi a’r parodrwydd i dderbyn risg. Daw mwy o allu i amrywio cyfraddau a bandiau â mwy o risgiau hefyd.
Dengys yr ymchwil fod ffurf fwy cynhwysfawr ar ddatganoli yn cynyddu’r risgiau a’r gwobrwyon, fel ei gilydd, os bydd y sylfaen drethu yng Nghymru yn tyfu ar gyfradd wahanol i’r hyn a fydd yn digwydd mewn ardaloedd eraill yn y DU, yn enwedig ar ben uchaf y dosbarthiad incwm.
Mae’r dadansoddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd ystyried dyluniad penodol yr addasiad i’r grant bloc. Nid oes ffurf “gywir” ar gyfer yr addasiad i’r grant bloc, ac ni ddaw unrhyw ffurf ar hyn heb ei risgiau a’i chyfleoedd. Serch hynny, mae’r ymchwilwyr yn dangos bod natur y risgiau a’r cyfleoedd hynny yn amrywio gan ddibynnu ar ffurf yr addasiad i’r grant bloc.
Byddai cael mwy o reolaeth dros y dreth incwm yn golygu bod yn fwy agored i risg, a byddai’n rhaid cael adnoddau gwell i reoli risg felly. Byddai pwynt yn cael ei gyrraedd pan na fyddai’r hyblygrwydd cyllidol presennol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol i sicrhau ei bod yn bosibl i reolaeth ariannol briodol gael ei chynnal pe bai cyllideb Cymru yn dod yn agored i fwy o amrywiad yn y sefyllfa net o ganlyniad i’r dreth incwm.
I newid y dreth incwm yng Nghymru, mae’n ofynnol trafod a negodi â Llywodraeth y DU a rhaid wrth ddeddfwriaeth gan Senedd y DU, gyda chydsyniad Senedd Cymru. Roedd cyfraddau treth incwm Cymru, ar eu gwedd bresennol, yn gynnyrch proses hir o drafod a datblygu, gan gynnwys adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017.
Cyhoeddir yr Adroddiad hwn, felly, i gyfrannu at unrhyw drafodaeth o’r fath yn y dyfodol.
