Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cyhoeddi dau adroddiad dadansoddol sy'n defnyddio data treth incwm i edrych ar fudo. Comisiynwyd y dadansoddiad i hysbysu llunio polisïau treth incwm datganoledig.

Comisiynwyd y cyhoeddiad cyntaf, Intra-UK migration of individuals: movements in numbers and income, gan Lywodraethau Cymru a'r Alban. Mae'n defnyddio set ddata hydredol newydd i olrhain symudiadau unigolion a'r incwm sy'n cael ei ddatgan i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar draws Cymru, yr Alban a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig dros amser yn seiliedig ar ddata treth gweinyddol. Mae'r dadansoddiad yn ymdrin â'r blynyddoedd 2009-10 i 2021-22 ac yn canfod bod Cymru a'r Alban wedi gweld cynnydd graddol mewn mewnfudiad trethdalwyr net o weddill y DU o 2016-17 ymlaen, gyda chynnydd mwy yn 2020-21 a 2021-22 - o bosibl mewn ymateb i bandemig COVID.

Mae'r ail gyhoeddiad, Impacts of 2018-19 Scottish Income Tax changes on intra-UK migration and labour force participation yn defnyddio dadansoddiad econometrig i amcangyfrif yr ymatebion i Newidiadau Treth Incwm yr Alban 2018-19. Yn benodol, mae'n amcangyfrif y mudo rhwng yr Alban a rhannau eraill o'r DU, ac a yw pobl wedi ymuno â'r farchnad lafur neu wedi ei gadael. Er y bu cynnydd net mewn mudo ar ôl 2018-19, mae rhywfaint o dystiolaeth y bu gostyngiad mewn mudo net i'r Alban ymhlith unigolion sy'n ennill mwy na throthwy'r Gyfradd Uwch, gyda maint y cwymp yn cynyddu yn unol â lefelau incwm. Mae hyn yn awgrymu y byddai lefelau mudo wedi bod yn uwch heb y newidiadau i Dreth Incwm yr Alban.

Rwy'n croesawu'r ychwanegiadau hyn i'r sylfaen dystiolaeth sy'n ymwneud ag ymddygiad talwyr treth incwm ar draws y DU. Mae datblygu'r sylfaen dystiolaeth hon yn darparu gwybodaeth bwysig i helpu i lywio penderfyniadau polisi treth yn y dyfodol.