Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymgynghoriad ar Ddal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS). Mae CCUS yn dechnoleg bwysig yn ein hymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond rydym yn ymwybodol iawn bod yn rhaid targedu'r defnydd ohono'n briodol, ac nad yw'n cael ei drin fel ffordd i allu parhau i ddefnyddio tanwyddau ffosil.
I'r perwyl hwnnw rydym wedi datblygu cynnig polisi ar CCUS, gan adeiladu ar y datganiad i Senedd Cymru ar 15 Hydref 2024. Rydym yn dal i gredu bod osgoi cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y lle cyntaf yn well na'u dal a'u storio. Ond, rydym yn cydnabod bod y brys i leihau allyriadau i'r atmosffer, ynghyd â'r angen am bontio teg ar ddiwydiant a gweithwyr, a'r angen am gyflenwadau ynni dibynadwy ar gyfer diwydiant a defnyddwyr, yn golygu bod yn rhaid ystyried pob opsiwn ar gyfer lleihau allyriadau. Mae'r polisi rydym yn ei gynnig yn dangos sut y bydd y ffordd yr awn ati i ddatgarboneiddio yn ein tywys ni fel cymdeithas tuag at yr atebion mwyaf cynaliadwy. Lle ceir dulliau datgarboneiddio a lleihau allyriadau nad ydynt yn golygu cynhyrchu nwyon tŷ gwydr, yna dylid eu defnyddio. Lle nad oes dulliau o'r fath, gellir defnyddio CCUS i leihau allyriadau i'r atmosffer, cyn belled â'i fod yn rhan o'r newid tymor hwy i ddileu allyriadau.
Rwy'n gwahodd pawb perthnasol yn ein diwydiannau, ein prifysgolion, cyrff eraill y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r cyhoedd yn gyffredinol, i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar y pwnc pwysig hwn, a'n helpu i benderfynu sut i leihau allyriadau yng Nghymru a sicrhau pontio teg.