Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf 2012, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bwriad i gyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn ar Fil Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.  Roedd y datganiad yn cefnogi ymrwymiad a gafwyd yn y Rhaglen Lywodraethu (Pennod 7) i gyflwyno Bil Cam-drin Domestig.

Ddydd Llun 26 Tachwedd, bwriadaf gyhoeddi Ymgynghoriad Papur Gwyn ar gynigion polisi a deddfwriaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar dri maes penodol: gwella arweinyddiaeth ac atebolrwydd, gwella addysg ac ymwybyddiaeth a gwella gwasanaethau yng Nghymru.    

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cymuned ddiogel sy'n rhydd o drais a chamdriniaeth. I sicrhau hyn, mae'n rhaid i ni fynd i’r afael â’r broblem gymdeithasol barhaus o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gwyddom fod hyn yn effeithio ar bobl o bob cefndir ac mae’n cael effaith ar fywydau nifer fawr o bobl yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud ymrwymiad drwy'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol i sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn rhan annatod o’r ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn meddwl o ddydd i ddydd. Mae'r Papur Gwyn hwn yn ffurfio rhan o'r pedwerydd amcan o blith yr Amcanion Cydraddoldeb, a’r amcan hwnnw'n canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau da rhwng pobl a lleihau'r achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, troseddau casineb, bwlio, troseddau ar sail anrhydedd a cham-drin yr henoed.

Dylanwadwyd ar ddatblygiad y Papur Gwyn gan yr ymatebion gwerthfawr a gawsom gan ystod o randdeiliaid. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol yn gynnar yn 2012 i ddylanwadu ar ddatblygiad cynnar y polisi a chwmpas y ddeddfwriaeth arfaethedig. Ddiwedd Awst 2012, cyflwynodd y grŵp adroddiad ac fe'i defnyddiwyd i ddylanwadu ar y Papur Gwyn. I ategu gwaith y grŵp, cynhaliodd y Tîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig dri digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru. Bu 300 o unigolion yn ymwneud â'r digwyddiadau hyn gan gynnwys grwpiau o'r sector arbenigol a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Diben yr ymgysylltu oedd ceisio barn pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ynghyd â phobl sy'n darparu'r gwasanaeth ar y bylchau y gallai'r ddeddfwriaeth arfaethedig o bosibl fynd i'r afael â hwy.

Mae'r Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn nodi cynigion polisi a deddfwriaeth a chredaf y bydd hyn yn cymryd camau sylweddol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  

Bydd yr Ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2012.


Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 22 Chwefror ac yna byddaf yn ystyried yr ymatebion er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.