Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cyhoeddi cynigion ymgynghori i ddiweddaru polisïau ar ddatgomisiynu niwclear a rheoli sylweddau ymbelydrol, gan gynnwys gwastraff ymbelydrol.

Rydym yn defnyddio sylweddau ymbelydrol mewn llawer o gynhyrchion a phrosesau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys trin a gwneud diagnosis o salwch difrifol, cyflawni gwaith ymchwil a datblygu a’u defnyddio mewn prosesau diwydiannol. Mewn rhai rhannau o’r DU, mae ynni niwclear yn parhau i ddarparu trydan carbon isel i’n cartrefi a’n busnesau. Bydd ynni niwclear yn parhau i fod yn ffynhonnell bwysig o drydan carbon isel yng Nghymru a Lloegr wrth inni weithio tuag at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. 

Mae’r rhan fwyaf o ffyrdd o ddefnyddio deunyddiau ymbelydrol yn cynhyrchu gwastraff ymbelydrol, y mae angen ei reoli. Gall y gwastraff fodoli ar ffurf nwyon, hylifau neu solidau. Mae’r polisi ar sylweddau ymbelydrol yn cynnwys rheoli’r ffyrdd mae sylweddau ymbelydrol yn cael eu defnyddio, a sut mae’r gwastraff a’r gwaddol a gynhyrchir o ganlyniad yn cael eu rheoli, er mwyn sicrhau nad yw pobl na’r amgylchedd yn agored i beryglon annerbyniol.

Cyhoeddwyd y ddogfen bolisi gyffredinol ddiwethaf ar reoli gwastraff ymbelydrol, sef Command Paper 2919, Review of Radioactive Waste Management Policy: Final Conclusions, yn 1995. Ers hynny, mae’r dirwedd o ran rheoliadau a pholisïau wedi newid yn sylweddol, yn enwedig yn sgil datganoli a chreu cyrff rheoleiddio newydd a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Mae rhai rhannau o’r Papur Gorchymyn wedi cael eu diweddaru a’u disodli gan ddogfennau polisi newydd. At hynny, mae polisïau newydd wedi cael eu datblygu nad oeddent wedi’u cynnwys yn wreiddiol ym Mhapur Gorchymyn 2919.

Mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig o’r farn ei bod yn bryd cyflwyno fframwaith polisi wedi’i gydgrynhoi ledled y DU yn lle Papur Gorchymyn 2919 a’r dogfennau polisi ar wahân sydd wedi disodli rhai rhannau ohono. Drwy wneud hynny, ein bwriad yw   nodi’n glir y polisïau hynny y mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn ymgyrraedd atynt ar y cyd, ac unrhyw bolisïau ar wahân sy’n berthnasol mewn unrhyw un o’r gwledydd unigol.

Mae’r cynigion yn diweddaru ac yn egluro nifer o bolisïau ac yn eu cydgrynhoi yn fframwaith polisi ar gyfer y DU gyfan, ac yn hwyluso ffyrdd cyflymach a mwy cost-effeithiol o ddatgomisiynu a rheoli gwastraff ymbelydrol. Bwriedir iddynt greu amcanion polisi sy’n fwy eglur a chyson ar draws y DU, lleihau beichiau diangen, datgloi ffyrdd mwy arloesol a chynaliadwy o weithio gan arwain at arbedion sylweddol i ddiwydiant a’r trethdalwr, a hynny wrth gynnal safonau uchel o ran diogelwch, diogeledd a diogelu’r amgylchedd.

Mae dwy ran i’r ymgynghoriad. Mae Rhan I yn nodi polisïau yr ydym yn cynnig y dylid eu diwygio. Bwriad pennaf y cynigion yw sbarduno gwelliannau i brosesau datgomisiynu niwclear a gwaith rheoli gwastraff ymbelydrol. Mae Rhan II o’r ymgynghoriad yn ddrafft o’r fframwaith polisi arfaethedig ar gyfer y DU gyfan fel y byddai’n edrych pe bai’r newidiadau i’r polisi yr ymgynghorir arnynt yn Rhan I yn cael eu gweithredu.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Citizen Space:

Ymgynghoriad agored: Rheoli sylweddau ymbelydrol a datgomisiynu niwclear

Mae dogfennau’r ymgynghoriad a’r ffurflen ymateb ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.