Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, 22 Mai 2014, rwy'n cyhoeddi Papur Gwyn yn nodi Cynigion Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Y nod yw creu system decach ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae diwygio'r modd y gall plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dderbyn cefnogaeth un ai mewn ysgol neu sefydliad Addysg Bellach yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r Papur Gwyn –‘Cynigion Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol’- yn gwahodd sylwadau ar gynigion i gyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.  Bydd hyn yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch asesu a chefnogi plant a phobl ifanc mewn ysgolion sydd anghenion addysgol arbennig a phobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu.

Mae'r Papur Gwyn yn egluro sut y bydd ein cynigion yn creu:

  • fframwaith deddfwriaethol unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
  • system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau.

Bydd y diwygiadau'n creu system sy'n lawer mwy teg ac sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Bydd hefyd yn rhoi rhagor o hawliau i blant a'u teuluoedd ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys gydol y broses. Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau a gynigir i bolisi a deddfwriaeth sylfaenol yn gwella'r gefnogaeth a gynigir i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol fel y gallant gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Mae'r Papur Gwyn yn adeiladu ar ein cynigion cychwynnol ar gyfer diwygio a nodir yn nogfen ymgynghori 2012 sef, “Ymlaen mewn partneriaeth dros blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol”. Gallwch weld y ddogfen hon ar ein gwefan.

Mae swyddogion wedi cynnwys rhanddeiliaid gydol y broses o baratoi'r Papur Gwyn ac rwyf wedi gofyn iddynt barhau mewn cysylltiad â hwy wrth i'r cynigion gael eu datblygu ymhellach.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau am naw wythnos a bydd yn dod i ben ar 25 Gorffennaf 2014.