Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, dwi wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar ein cynigion ar gyfer cefnogi ffermydd yn y dyfodol: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Cadw ffermwyr i ffermio.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam sylweddol ymlaen i wireddu'r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae ffermwyr trwy'r ddau gam cyd-lunio ynghyd â'r trafodaethau cadarnhaol gydag Aelod Dynodedig Plaid Cymru, mewn perthynas â’r elfennau hynny sydd o fewn y Cytundeb Cydweithio – cynnal taliadau sefydlogrwydd a fydd ar gael ar ôl y tymor hwn o’r Senedd a’r cyfnod pontio tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, wedi'n helpu i'w lunio. Mae'r berthynas gyda'n ffermwyr yn bwysig ac rydym mewn ffordd nad ydym wedi'i wneud o'r blaen wedi cynnwys mwy o syniadau a phrofiadau'r bobl sy'n gweithio'n ddiflino i roi bwyd cynaliadwy, diogel a maethlon ar ein platiau.  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno ein bwriadau i roi cymorth integredig hirdymor i wneud ein diwydiant ffermio yng Nghymru'n fwy cydnerth ac yn dangos beth sydd angen i ffermwyr ei wneud bob blwyddyn i fod yn rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Rydym wedi cadw'r strwythur tair haen (Cyffredinol, Opsiynol neu Gydweithredol) ac yn cynnig bod yr haenau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnodau clir rhwng 2025 a 2029, sef y Cyfnod Pontio fel yr ydym yn ei alw.

Bydd y Cynllun yn helpu i wireddu ein huchelgais, a ddisgrifir yn yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, bod ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy. Mae'r Cynllun yn cydnabod bod ein gallu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol yn dibynnu ar sicrhau bod busnesau fferm yn gynaliadwy yn economaidd yn y tymor hir. Bydd y Cynllun yn cefnogi busnesau fferm i fod yn fwy effeithlon a chydnerth, er mwyn iddynt allu cystadlu mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio. 

Nid oes dewis rhwng cynhyrchu bwyd a diogelu'r amgylchedd. Mae ffermio yn digwydd o fewn yr amgylchedd, a'r amgylchedd ehangach sy'n darparu'r amodau a'r adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu bwyd. Mae ffermwyr yn gwybod sut i gynhyrchu bwyd ardderchog, ond mae angen iddynt barhau i addasu i argyfyngau'r hinsawdd a natur ac yn ogystal â sicrhau bod amaethyddiaeth yn gydnerth, rhaid sicrhau hefyd ei fod yn ddiwydiant ffyniannus a phroffidiol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd ffermwyr yn cael Taliad Sylfaenol Cyffredinol blynyddol i gynnal cyfres o Weithredoedd Cyffredinol sydd wedi'u cynllunio fel bod pob ffermwr yng Nghymru yn eu gwneud ac yn cael y gorau o'u hadnoddau. Byddan nhw'n sail i weithredoedd eraill ddaw â manteision i fusnes y fferm ac i'r gymdeithas ehangach.  Rydym hefyd yn cynnig talu Taliad Sefydlogrwydd yn ystod y Cyfnod Pontio i helpu ffermwyr i gamu o'r Cynllun Taliad Sylfaenol cyfredol (BPS) i'r SFS gan sicrhau nad oes toriad yn eu hincwm. 

Bydd taliadau SFS yn wahanol i'r taliadau BPS.  Yn unol â disgwyliadau'r cyhoedd, bydd taliadau'r SFS yn gysylltiedig â'r hyn y bydd ffermwyr yn ei wneud, ar ben y gofyn cyfreithiol. Mae'r ymgynghoriad yn esbonio sut ydym am fynd ati a'r dystiolaeth a ddefnyddir i'n helpu i benderfynu ar y cyfraddau talu terfynol a'r canlyniadau y byddwn am i'r Cynllun esgor arnynt. Rwy'n disgwyl gwneud y penderfyniad hwn ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r dystiolaeth ddiweddaraf, hynny mewn pryd i roi cyfle i ffermwyr ystyried ffurf terfynol y Cynllun cyn ei gyflwyno yn 2025. 

Rydym yn cydnabod bod hwn yn fater cymhleth iawn, yn enwedig o gofio'r hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni. Ond rydym yn parhau i fod yn gadarn ein hymrwymiad i roi blaenoriaeth i arferion cynaliadwy sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â'r pryderon difrifol sy'n ein hwynebu heddiw, ond sydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol ffyniannus ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Rwy'n annog pawb i roi o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad hwn ar yr ymrwymiad hirdymor hwn i gefnogi ein systemau cynhyrchu bwyd, i gadw ffermwyr yn ffermio, i ddiogelu ein hamgylchedd ac i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.