Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei set ddiweddaraf o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, a hynny fel rhan o Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU 2019-21.     Mae'r ymrwymiadau hyn yn amlinellu ein huchelgais i weithio mewn modd mwy cydweithredol ac agored â'n dinasyddion, gan nodi'r camau y bwriadwn eu cymryd i'w chyflawni yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Mae gweithio mewn modd agored yn elfen hanfodol o sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu, ac mae'n hollol gydnaws â'r pum dull o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n hyrwyddo bod yn agored drwy gydweithredu  ac ymgysylltu ag eraill. Roeddem yn awyddus iawn felly i fod yn rhan o fenter y Bartneriaeth Llywodraeth Agored fyd-eang sy'n seiliedig ar y gwerthoedd craidd o dryloywder, cyfranogiad, ac atebolrwydd.  Un o gryfderau'r fenter hon yw bod y gwledydd sy'n cymryd rhan yn destun gofyniad adolygu annibynnol, a hefyd rhaid iddynt gynnal hunanasesiadau. Mae hwn yn ofyniad yr ydym yn ei groesawu'n fawr ac yn ei lwyr gefnogi.

Wrth ddatblygu ein hymrwymiadau, rydym wedi defnyddio Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru i ymgysylltu â'n cymdeithas sifil a'n dinasyddion er mwyn canfod sut y gallwn fod yn fwy agored ac ar ba feysydd y dylem ganolbwyntio. Wedi mynd drwy broses ymgysylltu, cawsom wybod eu bod yn awyddus i ddysgu mwy amdanom fel sefydliad ac am sut yr ydym yn gweithio, yn ogystal â lle y gallant fynd i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn sut mae cyllidebau'n cael eu datblygu a sut mae cyllid yn cael ei wario yng Nghymru. Roeddent hefyd am inni wella ein dulliau ymgysylltu.

Defnyddiwyd yr adborth hwn i ddatblygu ein hail set o ymrwymiadau llywodraeth agored, sy'n cynnwys y chwe thema gyffredinol ganlynol:

  • Ymgysylltu
  • Mynediad at Wybodaeth
  • Canllawiau ar Gyhoeddi Data Agored i Gyrff Cyhoeddus 
  • Grantiau
  • Deddfwriaeth
  • Ymgysylltu Ariannol

Mae cyfres o gamau gweithredu a cherrig milltir yn gysylltiedig â phob un o'r ymrwymiadau hyn, er mwyn rhoi sylw i'r meysydd a nodwyd yn sgil ymgysylltu â'r gymdeithas sifil, yn ogystal â'r meysydd a nodwyd o fewn Llywodraeth Cymru fel meysydd lle y dylid gwella.

Rydym eisoes yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau hyn, er ein bod yn ymwybodol bod angen inni adolygu ein cynnydd yn barhaus, gan nodi sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn fwy agored ac ymatebol yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda chymdeithas sifil a dinasyddion Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r her barhaus hon.

Dolen: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored 2019-2021