Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth, cytunais i atal dros dro y gwaith o adrodd ar rai o Ystadegau Perfformiad y GIG er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth ganolbwyntio ar ei ymateb i'r pandemig.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n mynd ati eto i gyhoeddi'r ystadegau hyn, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hyn yn cynnwys data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeiriad a thriniaeth, amseroedd aros diagnosteg a therapi ac amseroedd aros canser am bob mis rhwng mis Chwefror a mis Medi 2020, a data gofal wedi'i gynllunio newydd ar gyfer adrannau brys am bob mis rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020.

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar y GIG. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i'r holl staff sydd wedi gweithio o dan bwysau aruthrol drwy gydol y flwyddyn hon i gofalu am bobl sydd â'r coronafeirws, tra'n rheoli galwadau arferol gofal iechyd hefyd yr un pryd. 

Ym mis Mawrth, cyhoeddais y câi'r holl weithgarwch cynlluniedig ei ohirio er mwyn caniatáu i'r byrddau iechyd baratoi ar gyfer y pandemig. Mae gofal brys, gan gynnwys canser a gofal brys wedi parhau drwy gydol y pandemig, lle'r oedd yn ddiogel gwneud hynny ac er lle gorau'r unigolyn.

Ers i'r ystadegau gofal wedi'i gynllunio diwethaf gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror, mae nifer y bobl ar y rhestr aros wedi cynyddu, fel mewn mannau eraill yn y DU. Mae hyn i'w briodoli, yn rhannol, i'r mesurau ychwanegol sydd wedi'u sefydlu i atal y coronafeirws rhag lledaenu a sicrhau bod modd gweld a thrin pobl yn ddiogel. Mae pawb ar y rhestr aros yn cael ei adolygu gan ei glinigydd ac yn cael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

Heddiw, byddwn hefyd yn cyhoeddi set newydd o fesurau arbrofol i bobl sy'n cael mynediad at ofal yn ein hadrannau brys. Mae'r rhain wedi'u cynllunio gyda staff rheng flaen.

Byddwn yn cyhoeddi'r mesurau newydd hyn, sy'n darparu darlun mwy cyfoethog o brofiad pobl mewn adrannau brys na'r targed presennol o bedair awr ar wefan Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol GIG Cymru, yn yr un ffordd ag y cyhoeddir dangosyddion ansawdd ambiwlansys.

Y mesurau newydd yw’r amser rhwng cyrraedd adran frys hyd at frysbennu gan glinygydd; yr amser rhwng cyrraedd hyd at asesu gan uwch-glinigydd sy'n gallu gwneud penderfyniad a lleoli cleifion yn dilyn diwedd eu triniaeth yn yr adran frys. 

O'u cyfuno â'r wybodaeth bresennol am faint o amser, ar gyfartaledd, a dreulir mewn adran frys, bydd y mesurau newydd hyn yn helpu uwch arweinwyr y GIG i ganolbwyntio adnoddau yn y lleoedd iawn, ar yr amser iawn, ac, yn y pen draw, yn achub mwy o fywydau.