Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddodd yr Ystadegydd Gwladol heddiw mai ei hargymhelliad i Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig yw y dylai’r cyfrifiad nesaf yn 2021 fod yn gyfrifiad ar-lein yn bennaf. Awgryma canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yng Nghymru y bydd mwyafrif defnyddwyr data poblogaeth yng Nghymru yn croesawu’r argymhelliad hwn. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydnabod y byddai angen cymryd gofal arbennig i gefnogi’r rhai na fyddai’n gallu cwblhau’r Cyfrifiad ar-lein.

Yn 2010, gofynnodd Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ymchwilio i bosibiliadau gwahanol i’r cyfrifiad traddodiadol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ymgymryd â’r gwaith hwn trwy’r rhaglen Tu Hwnt i 2011. Ar ôl ystyried ystod o bosibiliadau gwahanol, ymgynghorodd y rhaglen Tu Hwnt i 2011 ar ddau ddull:

Y Dull Cyfrifiad Ar-lein:
-- cyfrifiad i’w gynnal bob deng mlynedd ond gan dybio bydd y rhan fwyaf o bobl yn cwblhau’r ffurflen cyfrifiad ar-lein yn hytrach nag fel holiadur papur a dderbynnir drwy’r post (bydd dulliau ateb amgen ar gael i’r rhai sy’n methu cwblhau’r Cyfrifiad ar-lein):

Y Dull Data Gweinyddol:
--  dull sy’n dibynnu ar ddefnyddio data gweinyddol sydd eisoes ar gael o fewn llywodraeth, wedi’i gyfuno gydag arolwg blynyddol gorfodol o bedwar y cant o’r boblogaeth.

Mae data’r Cyfrifiad yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac i nifer o ddefnyddwyr yng Nghymru, a byddai pryderon wedi bod ynghylch lleihad posibl yn ansawdd data a fyddai’n cael ei gasglu drwy ddull gwahanol i’r Cyfrifiad. Mae parhad y Cyfrifiad yn sicrhau y bydd amcangyfrifon poblogaeth yn y dyfodol yn cyfateb i ansawdd amcangyfrifon presennol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer dyraniad arian llywodraeth leol a gweithredu’r fformiwla Barnett. Mae’r Cyfrifiad hefyd yn hanfodol ar gyfer ein dealltwriaeth fanwl o bynciau megis yr iaith Gymraeg, tai, a chydraddoldeb yng Nghymru.

Mae’n amlwg yn bwysig, lle bo’n bosibl, i foderneiddio’r ffordd y gwneir pethau, a nodaf fod yr Ystadegydd Gwladol hefyd wedi argymell cynyddu’r defnydd o ddata gweinyddol ac arolygon er mwyn ychwanegu at ystadegau Cyfrifiad 2021 a gwella ystadegau blynyddol rhwng dau gyfrifiad.

Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Swyddfa’r Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r dull hwn, sef cyfrifiad ar-lein yn bennaf, ar gyfer 2021 (amgaef gopi o’r llythyr hwnnw).