Neidio i'r prif gynnwy

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Heddiw rydym wedi cyhoeddi dyfarniad cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer ail gam arbed. 

Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwneud cartrefi Cymru'n rhatach-ar-ynni ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi cyllid o £37 miliwn ar gyfer cam 2 rhaglen arbed y Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n cael cymorth o £29 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Sicrhawyd y cyllid hwn o ganlyniad i waith ar draws adrannau a chaiff ei chynnal ar y cyd ag awdurdodau Lleol gyda chymorth gan Dai Cymunedol Cymru a chymdeithasu tai Cymru. Bydd y rhaglen yn helpu i wneud o leiaf 4,000 o gartrefi'n rhatach-ar-ynni yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae hynny'n golygu y bydd manteision gwirioneddol cam 1 rhaglen arbed o ran gwella cartrefi a sbarduno buddsoddi a chyfleoedd busnes ar draws Cymru yn parhau hyd at 2015 a byddwn yn sicrhau bod popeth a ddysgwyd o gam cyntaf y rhaglen yn cael effaith ar yr ail gam i sicrhau ei fod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.

Bydd y buddsoddiad yn hwb mawr i gefnogi'r economi carbon isel a swyddi gwyrdd drwy greu mwy o alw am weithgynhyrchu a gosod offer sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddileu tlodi tanwydd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwneud cartrefi yng Nghymru yn rhatach ar ynni.