Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'm Cais am Dystiolaeth ar daliadau ystadau. Cynhaliwyd cyfnod y Cais am Dystiolaeth rhwng 6 Chwefror a 30 Ebrill 2020. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar yr arfer o ddefnyddio ffioedd ystadau i dalu am gynnal a chadw mannau cyffredin ar ddatblygiadau tai. Gall y mannau hynny gynnwys ffyrdd, ardaloedd agored cyhoeddus, a chyfleusterau chwarae, os nad yw'r awdurdod lleol wedi’u mabwysiadu, nac yn eu cynnal a’u cadw, ar draul y cyhoedd.

Derbyniodd yr ymarfer dros 600 o ymatebion, yn bennaf gan breswylwyr sy'n talu ffioedd ystadau, ond hefyd gan sefydliadau ac unigolion sy'n ymwneud â'u sefydlu. Roedd y rheini’n cynnwys datblygwyr, awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, cwmnïau rheoli a chyfreithwyr eiddo. Rwy'n ddiolchgar iawn i bob ymatebydd am roi o’i amser i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth sydd wedi cryfhau ein dealltwriaeth o'r taliadau hyn – sy’n cynnwys ymhlith materion eraill, bod codi ffioedd yn arfer sydd wedi dod yn fwy cyffredin, y costau cyfartalog, y math o ardaloedd y codir ffioeddd amdanynt, a'r rhesymau dros godi ffioedd.

Mae cryfder y teimlad a gyfleuwyd gan y preswylwyr a ymatebodd i'r ymarfer yn dangos bod proses gweithredu’r ffioedd hyn ymhell o fod yn foddhaol. Rhoddodd llawer o breswylwyr wybod nad oeddent yn gwbl ymwybodol o fodolaeth a lefel debygol y taliadau wrth brynu eiddo; nad yw’r taliadau'n cynrychioli gwerth am arian; ac os ydynt wedi ceisio cwyno neu herio taliadau, eu bod yn anfodlon ar y modd yr ymdriniwyd â'u hachos. Nododd llawer ohonynt amrywiaeth o gamau a fygythiwyd neu a gymerwyd mewn ymateb i beidio â thalu neu i gwestiynu'r taliadau. Nid yw preswylwyr yn glir ychwaith pam y dylent dalu'r taliadau hyn yn ychwanegol at y dreth gyngor, yn enwedig gan fod y cyfleusterau fel arfer ar gael i'r gymuned gyfan eu defnyddio. Mynegodd sawl grŵp a ymatebodd i'r cais am dystiolaeth eu bod yn ofni y byddai hyn yn peri rhwyg ac yn niweidiol i gydlyniant cymunedol.

Mae'n amlwg bod gwaith i'w wneud i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn. Ac mae’r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau. Fel cam cyntaf, rwyf wedi manteisio ar y cyfle a gynigir drwy ddatblygu trydydd cam cynllun Cymorth i Brynu – Cymru, a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2021. Bydd hwnnw’n rhoi cyfle inni fynd i'r afael â'r hyn a welaf fel rhai meysydd y mae'n amlwg bod angen eu diwygio.

Yn gyntaf, rwy am atal y camau mwyaf niweidiol a gymerir yn erbyn preswylwyr sydd wedi syrthio ar ei hôl hi o ran talu eu ffioedd. Yn sgil hynny, rwy wedi cyfarwyddo mai dim ond pan fo tâl ystad yn gwahardd cwmnïau rheoli ystadau sy'n rhoi eiddo ar les hir neu sy’n cymryd eiddo i feddiant os bydd ôl-ddyledion o'r tâl ystad a godir (drwy Adran 121 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) y dylai Cymorth i Brynu Cymru fod ar gael. Rwy’n ystyried bod y camau hynny, a’r ffaith y cânt eu defnyddio i fygwth preswylwyr, yn ddidostur ac yn anghymesur, ac rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i atal eu defnyddio.

Yn ail, rwy wedi gofyn i wybodaeth gliriach a mwy pendant am fodolaeth a lefel debygol y taliadau ystadau gael ei darparu yn gynnar ym mhroses y gwerthiant, ac yn sicr cyn y bydd yn ofynnol i brynwr posibl ymrwymo i eiddo. Bydd hynny’n caniatáu i ddarpar breswylwyr wneud penderfyniad doeth ynghylch dewis eiddo â thaliadau o'r fath. Yn ogystal, bydd y gofynion a osodir ar drawsgludwyr Cymorth i Brynu – Cymru yn cael eu tynhau ymhellach, er mwyn sicrhau eu bod yn trafod taliadau ystadau â’u cleientiaid.

Yn olaf, mae angen ystyried sut y dylid talu am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau sydd o fudd mawr mewn datblygiadau tai newydd. Rwy’n cydnabod nad yw'n fater syml o feddwl y gallai awdurdodau lleol ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn am byth heb yr adnoddau angenrheidiol i ddarparu ar gyfer gwasanaeth o'r fath. Mae gofyn inni roi sylw priodol i’r cwestiwn hwnnw, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw newidiadau a wnawn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol ac effeithiau andwyol ac annisgwyl. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau wrth i’r gwaith fynd rhagddo.