Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn yr Archwiliad Manwl i Fioamrywiaeth, rwyf wedi ymrwymo i gymryd camau i atgyfnerthu rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru (MPAau). Mae hyn yn rhan o'm hymateb i'w hargymhelliad i 'drawsnewid y gyfres o safleoedd gwarchodedig i'w gwneud yn well, yn fwy ac wedi'i chysylltu yn well.'

Mae ein rhwydwaith o MPAau yn helpu i gyflwyni'r ymrwymiad i ddiogelu ein hamrediad syfrdanol o gynefinoedd a rhywogaethau yn nyfroedd morol Cymru. Gan adlewyrchu ein rhwymedigaethau domestig a rhyngwladol, rydym wedi llwyddi i nodi a diogelu cyfran fawr o'r cynefinoedd a rhywogaethau hanfodol bwysig a welir ar draws ardal forol Cymru. Mae ein dynodiadau presennol wedi ein galluogi i gymryd camau rheoleiddiol i ategu'r gwaith o warchod yr amgylchedd morol. Mae nodweddion sensitif o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Ceredigion, er enghraifft, wedi cael eu diogelu drwy weithredu'r Gorchymyn Cregyn Bylchog (2012). Mae ymyriadau o'r fath yn galluogi adfer ac yn darparu lloches ar gyfer bioamrywiaeth sensitif o fewn safleoedd, ac mae'r manteision yn estyn i'r amgylchedd ehangach y tu hwnt i'r ardal ddynodedig.

Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn dangos bod nifer fach o ddiffygion o ran cynefinoedd yn ein rhwydwaith, yn bennaf yn ardaloedd dwfn y môr mawr, y mae angen eu hystyried i gwblhau ein rhwydwaith o MPAau. Ar hyn o bryd dim ond un Parth Cadwraeth Morol (MCZ) sydd wedi cael ei ddynodi yng Nghymru, sef Sgomer.  Mae dynodi Sgomer yn MCZ wedi ei galluogi i elwa ar fesurau o dan ddeddfwriaeth cadwraeth natur i gyfyngu ar weithgareddau, er enghraifft defnyddio offer pysgota symudol a chymryd, lladd neu darfu ar fywyd gwyllt. Mae hefyd terfyn cyflymder o 5 not o fewn 100 metr o'r traeth i leihau tarfu ar fywyd gwyllt.

Nid yw nodweddion yn y môr mawr, fel cwiliau môr a megaffawna tyrchol mewn mân laid isforlan ddofn, yn cael eu cynrychioli yn y rhwydwaith ar hyn o bryd.  Gyda'r diddordeb cynyddol gan ddatblygwyr, fel ynni gwynt alltraeth, mae'n hanfodol bod cynllunio morol yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i gefnogi sectorau o'r fath i dyfu mewn modd cynaliadwy, wrth hefyd sefydlu ardaloedd cadwraeth i fod yn lloches ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

I'r perwyl hwnnw, ac mewn ymateb i argymhellion ein harchwiliad manwl i fioamrywiaeth (yma), rwyf heddiw yn cyhoeddi dechrau ein proses ymgysylltu cyn-ymgynghori ar gyfer dynodi Parthau Cadwraeth Morol (MCZ). Mae hwn yn gyfle hanfodol i randdeiliaid a chymunedau gymryd rhan yng nghamau cynnar ein gwaith i nodi safleoedd posibl i'w diogelu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, ac wedi parhau i fod wedi ymrwymo i gydgynhyrchu a chydweithredu â rhanddeiliaid drwy gydol y broses hon. Mae'r gwaith hyd yn hyn wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer MCZau, grŵp rhanddeiliad allweddol sy'n cynnwys llawer o gynrychiolwyr o sector Cymru.  Hoffwn annog yn gryf bob parti â diddordeb neu fuddiannau i gymryd rhan yn y broses. Bydd y dystiolaeth a'r farn a roddir nawr yn cael eu hystyried wrth nodi safleoedd a ffiniau posibl cyn yr ymgynghoriad ffurfiol.

Rwy'n cydnabod bod rhaid gweithredu'r dynodiad yn llwyddiannus i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd morol yn effeithiol. Rhaid rheoli ein safleoedd yn dda ac mae mesurau addas yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein hymdrechion yn dwyn ffrwyth drwy fioamrywiaeth well ac ecosystemau mwy cydnerth. Mae cynefinoedd a rhywogaethau o fewn ein safleoedd yn cael eu hasesu ar gyfer y posibilrwydd o fod mewn peryg o ganlyniad i weithgareddau pobl, a chymerir camau pan fydd angen. Nid oes gwaharddiad cyffredinol ar weithgareddau fel hamdden, twristiaeth neu bysgota yn y rhwydwaith o safleoedd morol.  Fodd bynnag, pan wyddys bod niwed yn digwydd, rhaid inni gymryd camau priodol a chydweithio â rhanddeiliaid a chymunedau i nodi camau rheoli priodol. 

Wrth i'r gwaith o gwblhau ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ddod i ben, byddwn yn manteisio ar y cyfle i ymweld â'n safleoedd a gweld eu llwyddiannau. Rhaid inni asesu ein rhwydwaith ac ystyried a yw'r manteision, fel ecosystemau mwy cydnerth, a'r amddiffyniadau rydym yn eu ceisio'n cael eu gwireddu.  Rhaid inni asesu'r sefyllfa mewn ffordd holistaidd, ac ailystyried y lefelau o ddiogelu a roddir i'n safleoedd ac asesu a yw'r ffordd maent yn cael eu rheoli ar hyn o bryd yn gymesur ac yn effeithiol. I'r perwyl hwnnw, byddaf yn comisiynu gwaith, ochr yn ochr â gwaith ein grŵp gorchwyl a gorffen rhanddeiliaid, i gytuno ar broses ffurfiol ar gyfer yr adolygiad hwn a chwmpas yr asesiad.

I gael rhagor o wybodaeth am lansio'r broses ymgysylltu cyn-ymgynghori ynghylch Parthau Cadwraeth Morol, ewch i'r wefan yma lle mae amrediad o ddeunyddiau defnyddiol gan gynnwys yr holl ddogfennau ar gyfer y broses, amrediad o gyflwyniadau ac atebion i lawer o gwestiynau cyffredinol.