Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart AC CStJ MBE, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn i am wneud datganiad yn sgil cyhoeddiad Tata Steel UK neithiwr.

Meddai Tata yn eu cyhoeddiad: “Mae Bwrdd Tata Steel wedi bwrw golwg strategol ar eu busnes yn y DU ac yn dilyn hynny, mae wedi cynghori Bwrdd ei ddaliad Ewropeaidd h.y. Tata Steel Europe, i ystyried pob opsiwn ar gyfer ailstrwythuro ei bortffolio gan gynnwys o bosibl gwerthu Tata Steel UK, yn ei gyfanrwydd neu yn rhannau.  O gofio difrifoldeb y gofynion ariannol yn y dyfodol rhagweladwy, cynghorir Bwrdd Tata Steel Europe i ddewis yr opsiwn mwyaf ymarferol, a rhoi’r opsiwn hwnnw ar waith o fewn yr amserlen.”

Datganodd Tata fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud yn wyneb dirywiad perfformiad ariannol yr is-gwmni Prydeinig dros y 12 mis diwethaf a’r disgwyl na fydd y dirywiad hwn yn debygol o arafu er gwaethaf ymdrechion gorau’r cwmni a’r staff.

Mae’n gyfnod anodd ar y gweithwyr ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru. Dros gyfnod yr adolygiad, rydym yn ymrwymo i weithio gyda Tata a’r Undebau Llafur i sicrhau dyfodol tymor hir i’r diwydiant dur yng Nghymru.  

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried pob opsiwn ymarferol i gadw diwydiant dur Prydeinig cryf yn ganolog i’n sylfaen gweithgynhyrchu. Rhaid inni i gyd dynnu gyda’n gilydd i gael ateb cynaliadwy i sicrhau presenoldeb tymor hir y diwydiant dur ym Mhort Talbot a Chymru, fel rhan o sylfaen gweithgynhyrchu cryf i’r DU.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau bod pob ffynhonnell cymorth ar agor ac ar gael.  Byddwn yn gofyn unwaith eto i Lywodraeth y DU ystyried yr angen a’r cyfle i edrych tuag Ewrop am gymorth trwy fecanweithiau fel Cronfa Addasu Globaleiddio Ewrop.

Caiff cyfarfod o Dasglu Tata ei gynnal ar 4 Ebrill lle byddwn yn cytuno ar y camau hyn a gweithredoedd eraill.