Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n nodi'r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU ar 6 Mai 2025 ei bod wedi cwblhau trafodaethau ar y Cytundeb Masnach Rydd (FTA) rhwng y DU ac India.
Mae India yn farchnad bwysig i Gymru ac mae gennym berthynas fasnachol gref, gyda thua 256 o fusnesau o Gymru yn allforio nwyddau i India, a 389 o fusnesau yn mewnforio nwyddau o India yn 2024[1]. Gwerth y fasnach nwyddau rhwng India a Chymru oedd £762.8m yn 2024. Mae hyn yn golygu mai India yw ein 14eg marchnad allforio fwyaf a'r 12fed farchnad fewnforio fwyaf. Mae'r data masnach gwasanaethau diweddaraf ar gyfer 2022 yn amcangyfrif bod gwerth masnach gwasanaethau tua £373m.
Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad bod y trafodaethau wedi dod i ben. Fel gydag unrhyw Gytundeb Masnach Rydd, rwy'n disgwyl i'r cytundeb hwn allu darparu manteision ymarferol i'n busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod chwarae teg o ran masnach, ac amddiffyniad digonol i'n diwydiannau mwyaf sensitif. Byddai'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein dull o ymdrin â pholisi masnach, a'n huchelgais i gynyddu ffyniant yng Nghymru, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd fy swyddogion yn gweithio i ddeall yr hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn y Cytundeb Masnach Rydd terfynol a sut mae hyn yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau ein hunain ar gyfer polisi masnach.
Rwy'n croesawu'r ymwneud cadarnhaol rhwng fy swyddogion â Llywodraeth y DU a fu drwy gydol y trafodaethau hyn. Mae'n enghraifft o gydweithredu da y gellir ei ailadrodd mewn trafodaethau masnach a meysydd polisi eraill.
Unwaith y bydd manylion llawn y cytundeb ar gael, bydd fy swyddogion yn ei adolygu ac yn trafod â'n Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach ac yn cyhoeddi safbwynt ar effeithiau'r cytundeb ar Gymru a'n busnesau.
[1] Mae hyn yn cynrychioli tua 8.0% o 3,188 o fusnesau yng Nghymru a allforiodd yn 2024 a 3.3% o'r 11,693 o fusnesau yng Nghymru a fewnforiodd.