Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU bod Cyrnol James Phillips wedi cael ei benodi’n Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru.

Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu fel aelod o’r Fyddin Brydeinig, yn byw yn Sir Benfro ac a ddychwelodd yn ddiweddar i fywyd sifil, bydd ei brofiad a’i ddealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu cyn-filwyr a’u teuluoedd a natur ddatganoledig ein gwasanaethau yng Nghymru o fantais ac yn ychwanegu gwerth at y cymorth a ddarperir eisoes ar gyfer cyn-filwyr a theuluoedd.

Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r Comisiynydd Cyn-filwyr. Bydd hefyd yn gyfle inni drafod y cymorth a darparwyd gan Lywodraeth Cymr i gyn-filwyr yng Nghymru a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n diwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys ein cyn-filwyr.  Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar nifer o fentrau sydd wedi darparu cymorth ymarferol wedi'i dargedu i'n cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae rhain yn cynnwys:

  • Yn 2021-22 cynyddodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfer GIG Cyn-filwyr Cymru i £920k y flwyddyn.
  • £200,000 y flwyddyn o gyllid grant i gefnogi plant y lluoedd gwasanaeth ac ariannu prosiect SSCE Cymru, sy'n cydlynu ymchwil ac yn casglu tystiolaeth ar brofiadau plant y lluoedd gwasanaeth mewn addysg i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cefnogi a'u deall.
  • £50,000 gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth arbenigol i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes, er mwyn sicrhau bod hyfforddiant ar gael i’r rheini sy’n gweithio ym maes prostheteg i ddysgu am dechnolegau newydd. Mae’n hynny’n golygu bod cyn-filwyr yn gallu cael y cymorth technolegol y mae ei angen.
  • Cynnal digwyddiad i hyrwyddo cyflogaeth ymysg cyn-filwyr ym mis Tachwedd 2021 mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd. Cynigiwyd swyddi i bedwar cyn-filwr ar y diwrnod ei hun, gyda 10 eraill yn y broses o gael cynnig cyflogaeth.
  • Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned wedi cyhoeddi’r pecyn cymorth Gwneud yn Fawr o Ddoniau Teuluoedd Milwrol sy’n tynnu sylw cyflogwyr at sut y gallant recriwtio a chadw aelodau o deuluoedd y lluoedd arfog.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £120,000 ar gyfer ymyriadau arbenigol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng nghymuned y Lluoedd Arfog.
  • Yn 2021, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Brigâd 160 Cymru a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd i gynhyrchu a chyhoeddi Canllaw Ailsefydlu cyntaf Cymru i dynnu gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd, ac i gyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael yng Nghymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi £275,000 y flwyddyn ar gyfer swyddi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws Cymru. Mae’r swyddogion hyn yn darparu gwasanaethau angenrheidiol i unigolion a chymorth i gyn-filwyr a’u teuluoedd, gan godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu cymuned y Lluoedd Arfog ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol yng Nghymru.

Wrth inni symud ymlaen, byddwn yn cydweithio â’r Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru Llywodraeth y DU a’n partneriaid eraill i barhau i adeiladu ar yr arferion da arwyddocaol sydd ar waith a’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, er mwyn sicrhau bod ein cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac mor gyfoethog eu haeddu.