Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Mae agenda Diwygio'r Sector Cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar weithio gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl leol yn fwy effeithlon.  Rydym yn ymwybodol o'r cyd-destun ariannol rydym yn gweithio ac yn byw ynddo a'i fod yn debygol o fynd yn fwy heriol yn y blynyddoedd i ddod.  Mae deall ein gwasanaethau - lle maent yn perfformio'n dda ac i'r gwrthwyneb - yn hollbwysig felly i lywio gwelliant.  

Er mwyn gwneud hynny rhaid i ni greu cydberthynas atebolrwydd gryfach rhwng y bobl sy'n cael gwasanaethau a'r cyrff sy'n eu darparu.  A rhaid i ni fod yn siŵr bod gan ein cynghorwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i graffu'n effeithiol ar y gwasanaethau y mae eu hetholwyr yn eu cael.  Bydd Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn cefnogi'r gwaith ymgysylltu hwn drwy gryfhau'r broses graffu.

Credaf hefyd fod gan y dinesydd a'r defnyddiwr gwasanaethau rôl bwerus yn y gwaith o graffu ar wasanaethau a ddarperir - wedi'r cyfan, maent yn cael profiad o wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.  Rwyf am i'r bobl hyn allu cael gafael ar wybodaeth am eu gwasanaethau lleol yn hawdd a chymharu pa mor dda y mae eu hawdurdod lleol yn perfformio o ran y gwasanaethau sydd o bwys iddynt.

Mae’r cyhoeddiad Perfformiad Awdurdod Lleol yr wyf yn gwneud ar gael heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru yn dechrau'r broses hon drwy ganolbwyntio ar berfformiad awdurdodau lleol mewn meysydd allweddol.  Gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn dechrau llywio trafodaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaeth o safon y gwasanaeth y dylai pobl ei disgwyl. Dylai hefyd weithredu fel cyfrwng i fanteisio ar y cyfoeth o ddata perfformiad sydd ar gael ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ei hun.

Fe fydd heriau o ran ansawdd, amseroldeb, perthnasedd a chynrychioldeb y data a gyflwynir yn y tablau.   Deallaf y pryderon hynny ond credaf fod y data yn fan cychwyn defnyddiol i ysgogi trafodaeth ynghylch gwasanaethau a ddarperir a blaenoriaethu – mae honno'n drafodaeth angenrheidiol a byddaf yn parhau i'w hysgogi a'i llywio.  Anogaf eraill i ymuno yn y drafodaeth ac ymgysylltu â'u hawdurdodau lleol ac aelodau etholedig.

Nid cyhoeddiad unigryw yw hwn. Rwy'n bwriadu llunio fersiynau pellach a fydd yn adlewyrchu data mwy cyfredol ac yn ceisio datblygu ffocws y cyhoeddiad ar y "dinesydd" wrth i ni ymgysylltu â chynulleidfa ehangach a llywio gwelliannau mewn gwasanaethau.  Felly croesawaf unrhyw adborth adeiladol a allai fod gennych ar y cyhoeddiad hwn, yn enwedig ynghylch sut y gallaf ymestyn a gwella'r data y byddaf yn ei ryddhau er mwyn ysgogi trafodaeth barhaol ac ystyrlon am wella gwasanaethau.