Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol yn cael ei gynnal dan arweiniad y Farwnes Julia Cumberlege. Byddai’n edrych ar y ffordd yr ymatebwyd i bryderon cleifion am dri maes yn ymwneud ag iechyd menywod - sodium valproate, primodos a rhwyll y wain - a sut y gellid gwella'r ffordd y mae'r system gofal iechyd yn ymateb i bryderon.

Yn dilyn trafodaethau â chleifion sydd wedi profi cymhlethdodau ar ôl cael triniaethau rhwyll lawfeddygol, argymhellodd y Farwnes Cumberlege i Weinidogion yn Lloegr y dylid ymatal am y tro rhag defnyddio rhwyll lawfeddygol wrth drin anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen, nes bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni:

• Ni ddylai llawfeddygon gynnal llawdriniaeth ar gyfer anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen oni bai eu bod wedi cael eu hyfforddi yn briodol, a'u bod yn cynnal llawdriniaethau o'r fath yn rheolaidd

• Dylai llawfeddygon gofnodi pob triniaeth ar gronfa ddata genedlaethol

• Dylid cynnal cofrestr o driniaethau er mwyn sicrhau bod pob triniaeth yn cael ei nodi a bod modd adnabod y fenyw sydd wedi cael ei thrin

• Dylai unrhyw gymhlethdodau sy'n cael eu nodi drwy'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gael eu cysylltu â'r gofrestr

• Dylid medru adnabod ac achredu canolfannau arbenigol ar gyfer triniaethau anymataliaeth wrinol sy’n defnyddio rhwyll, triniaethau i'w gwaredu ac agweddau eraill o ofal angenrheidiol i'r rhai a effeithiwyd mewn ffordd negyddol

• Dylid cyhoeddi canllawiau NICE ar y defnydd o rwyll ar gyfer trin anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen.

Er bod cyngor y Farwnes Cumberlege ar gyfer Lloegr yn unig, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd ddilyn yr un egwyddor o fod ar ein gwyliadwriaeth a chyfyngu ar y defnydd o rwyll nes bod yr amodau hyn wedi'u bodloni. Mae hyn yn gyson â'r argymhellion a wnaed gan y panel adolygu a sefydlais ddiwedd y llynedd.

Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fod â lefelau digonol o lywodraethiant clinigol, gan gynnwys trefniadau cydsyniad, archwilio ac ymchwil, er mwyn i holl fenywod Cymru fedru bod yn hyderus bod pob mesur diogelu posib yn ei le. Yn ôl y dystiolaeth sydd gennym ar hyn o bryd, mae gostyngiad sylweddol eisoes yn y defnydd o driniaethau rhwyll y wain yng Nghymru, yn sgil newidiadau mewn penderfyniadau clinigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl i’r cyfyngiadau ychwanegol hyn fod yn eu lle nes bod modd bodloni'r gofynion ar gyfer mesurau diogelwch cryfach.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr meddygol gan dynnu eu sylw at gyngor y Farwnes Cumberlege yn cadarnhau bod hyn yn gyson ag argymhellion y panel adolygu yng Nghymru. Bydd angen i'm swyddogion weithio gyda chyrff proffesiynol perthnasol yn y DU i benderfynu pa drefniadau sydd angen bod yn eu lle cyn bod modd i Gyfarwyddwyr Meddygol gymeradwyo trefniadau gwasanaeth priodol.

Bydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, yn cyfarfod ym mis Awst i ddechrau goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion a wnaed gan y panel adolygu yng Nghymru a’r trefniadau newydd sydd angen eu gosod.

Gellir gweld adroddiad Grŵp Adolygu Cymru yma:

https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/mesh/?lang=cy