Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Heddiw, mae'n bleser gennyf roi gwybod bod adroddiad Adnoddau Cynllunio'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru wedi'i gyhoeddi. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac fe'i lluniwyd gan Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru (RTPI Cymru).
Mae'r adroddiad yn darparu'r asesiad mwyaf cynhwysfawr o gapasiti a gwydnwch ym maes cynllunio ers dros ddegawd. Mae'r canfyddiadau'n bwysig ar gyfer y llywodraeth, busnesau a chymunedau sy'n dibynnu ar system gynllunio effeithiol. Mae'n cadarnhau nad oes gan Gymru ddigon o gynllunwyr ac arbenigwyr cysylltiedig ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaeth cynllunio effeithlon ac effeithiol ym mhob achos. Nid yw'r sefyllfa hon yn unigryw i Gymru gyda heriau tebyg ar draws y DU.
Mae'r prif ganfyddiadau yn cynnwys y canlynol:
- Mae bron i dri chwarter (73%) o awdurdodau cynllunio lleol (ACLlau) yn gweithredu gyda swyddi gwag.
- Gostyngodd gwariant net mewn termau real ar wasanaethau cynllunio ACLlau 43% yn y cyfnod rhwng 2009 a 2024.
- Ffioedd ceisiadau cynllunio yw'r brif ffynhonnell incwm ar gyfer ACLlau. Roedd adennill costau ar gyfer gwasanaethau rheoli datblygu ar gyfartaledd yn 46% yn 2009, gan gynyddu i 56% yn 2024.
- Mae swyddi gwag yn anodd eu llenwi, yn enwedig ar gyfer swyddi uwch ac arbenigol.
- Mae proffil oedran y gweithlu yn dangos angen brys ar gyfer cynllunio olyniaeth. Disgwylir i 17% o gynllunwyr sector cyhoeddus ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, gan godi i 42% o fewn deg i ugain mlynedd.
- Mae angen o leiaf 161 o gynllunwyr ychwanegol yn y pum mlynedd nesaf i gwmpasu swyddi gwag presennol, ymddeoliadau sydd ar fin digwydd ac anghenion sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â chynllunio rhanbarthol, gwaith achos a phrosiectau seilwaith mawr. Mae'r ffigur hwn yn cynrychioli'r lleiafswm sydd ei angen.
- Mae bylchau sgiliau a chapasiti yn sylweddol ac yn helaeth ar draws ystod o arbenigeddau megis hyfywedd, dylunio trefol, ynni, tirwedd, ecoleg, trafnidiaeth a phriffyrdd, systemau draenio cynaliadwy, gwasanaethau cyfreithiol, cadwraeth a threftadaeth, sgiliau digidol a data. Adroddodd rhwng 45-75% o ACLlau am fylchau sgiliau a chapasiti mewn un neu fwy o'r meysydd hyn.
Mae'r gwaith ymchwil yn cloi gyda saith argymhelliad sy'n anelu at gryfhau capasiti a chefnogi gwydnwch tymor hir. Bydd angen camau gweithredu ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus, cyrff proffesiynol a sefydliadau academaidd er mwyn rhoi'r argymhellion ar waith yn llwyddiannus.
Mae camau eisoes wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhywfaint o'r pwysau uniongyrchol a nodwyd:
- Gwnaed buddsoddiad o £9 miliwn i gefnogi capasiti ychwanegol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a'r Gyfarwyddiaeth Gynllunio yn Llywodraeth Cymru.
- Cyflwynwyd trefn newydd ar gyfer ffioedd ceisiadau cynllunio ym mis Rhagfyr fel cam tuag at adennill costau llawn ar gyfer gwasanaethau rheoli datblygu, gan helpu i wella cynaliadwyedd ariannol.
- Cyflwynwyd cynllun Bwrsariaeth Cynllunio Trefol er mwyn talu'r gost i raddedigion gael cymhwyster ôl-raddedig, gan gynyddu ein cyflenwad o gynllunwyr.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i RTPI Cymru a chyfranwyr ar draws y proffesiwn cynllunio a gymerodd ran yn y gwaith hwn. Rwy'n siŵr bod canfyddiadau'r Adroddiad yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth nesaf hefyd yn dymuno eu hystyried fel rhan o waith darparu gwasanaethau cynllunio effeithlon ac effeithiol yn y sector cyhoeddus.
