Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd cyfres o weithdai ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei chynllunio a'i darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a WWF Cymru yn gynharach eleni. Nod y gweithdai oedd cytuno ar sut y gellir sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith a sut y gellir dangos hynny.  Yn y gweithdai ystyriwyd ble mae angen gwelliant a sut y gellir cynnwys rhanddeiliaid y trydydd sector yn y dyfodol.  

Ymhlith y meysydd gweithredu allweddol roedd caffael, integreiddio polisi, capasiti a galluogrwydd, ynghyd â phwyslais ar y pum ffordd o weithio.  

Byddaf yn parhau i oruchwylio'r camau gweithredu hyn a hoffwn ddiolch i WWF Cymru am weithio gyda ni.

Bydd yr adroddiad ar gael yn yr hydref.

Dolen: 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?lang=cy