Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r gwaith o werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi bod yn mynd rhagddo yn dda. Mae sawl adroddiad wedi’u llunio eisoes yn ystod y prosiect, a nawr daw cyhoeddiad yr Adroddiad Terfynol â’r ymchwil i ben.

Mae’r Adroddiad Terfynol yn nodi ‘gallwn fod yn hynod gadarnhaol am y modd y cafodd y Ddeddf ei chysyniadoli’ ond yn llai positif am ei gweithredu, a’r heriau cyd-destunol niferus sydd wedi herio’r sector yn y blynyddoedd diwethaf.  

Mae’r Adroddiad yn cydnabod nad yw’r daith tuag at wireddu nod uchelgeisiol y Ddeddf wedi’i chwblhau, ac mae’n dod i gasgliad drwy gyflwyno cyfres o ‘gwestiynau prawf’ fel platfform ar gyfer adnewyddu ac chanolbwyntio o’r newydd ar egwyddorion craidd y Ddeddf.

Mae’r ‘cwestiynau prawf’ hyn yn cael eu cyflwyno i’r sector cyfan a byddant yn gyfrwng i hwyluso trafodaeth ymhlith rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gryfhau ac adfywio gweledigaeth y Ddeddf yn y blynyddoedd i ddod.

Cynhaliwyd y prosiect gwerthuso ochr yn ochr â gwaith y Grŵp Arbenigol i ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau cymdeithasol. Mae gweledigaeth gyffredin a chlir yn y ddau adroddiad ynghylch sut y gellir gwella gofal a chymorth yng Nghymru.