Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein sector dŵr yn wynebu heriau uniongyrchol a digynsail. Mae'n rhaid inni ddatgarboneiddio, diogelu'r hinsawdd a gwrthdroi colli bioamrywiaeth, a hynny yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol.

Ar hyn o bryd, mae 40% o gyrff dŵr Cymru yn ennill statws cyffredinol o dda neu well o dan gategorïau Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017. Mae hyn yn codi i 44% os ystyrir afonydd Cymru yn unig. Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn 8% yn uwch na'r canlyniadau cyntaf yn 2009. Mae hyn yn dangos cynnydd cyson. Ond nid yw 40% yn ddigon da ac rwy'n gwybod y gallwn wneud mwy i wella iechyd ein hafonydd.

Mae nifer enfawr o ffactorau cymhleth a chydgysylltiedig yn effeithio ar ansawdd ein dŵr, gan gynnwys dŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, cysylltiadau diffygiol, llygredd gwledig gwasgaredig, addasiadau ffisegol, llygredd o fwyngloddiau metel segur a rhywogaethau goresgynnol. Er mwyn gwella ansawdd ein dŵr, mae Llywodraeth Cymru yn argymell dull 'Tîm Cymru'. Dim ond os yw'r llywodraeth, rheoleiddwyr a'r holl sectorau perthnasol yng Nghymru yn cyfranogi ac yn gweithio gyda'i gilydd y gallwn wireddu ein huchelgeisiau.

Mae gorlifoedd storm cyfun yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith dŵr. Maent yn ffordd a reolir o leihau pwysau yn ystod cyfnodau o law trwm, gan gyflawni rôl hanfodol wrth leihau'r risg o garthffosiaeth yn llifo'n ôl i gartrefi, busnesau a mannau cyhoeddus. Er hynny, mae'n amlwg bod y rhwydwaith gorlifoedd storm cyfun o dan bwysau. Gwyddom o ragolygon hinsawdd fod rhaid inni fod yn barod am gyfnodau hwy a mwy rheolaidd o law trymach yn y dyfodol.  Mae newid yn yr hinsawdd ynghyd â thwf y boblogaeth yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud dro ar ôl tro y byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm cyfunol presennol yn brosiect tymor hir a fyddai'n costio biliynau o bunnoedd ac yn drwm o ran carbon. Nid dyma fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr, na'r ffordd fwyaf cadarn o fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd. Rydym am sicrhau nad yw unrhyw orlif storm cyfun yn achosi niwed amgylcheddol i statws ecolegol ein hafonydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod niwed amgylcheddol ag amlder gollyngiadau'n faterion ar wahân, a rhaid inni sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y peth cywir er mwyn gwella ein hamgylchedd. Rwy'n cydnabod y gellir gwneud mwy i leihau'r angen am ollyngiadau. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud systemau draenio cynaliadwy (SDCau) yn orfodol ar gyfer bron pob datblygiad adeiladu newydd. Bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu cyflymder dŵr wyneb wrth iddo fynd i mewn i'r system garthffosydd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd gorlifoedd storm cyfun yn cael eu defnyddio oni bai bod gwir angen.

Yn 2022, sefydlwyd y Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell, i ddod â sefydliadau allweddol ynghyd er mwyn gwerthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat a chwmnïau dŵr, gydag Afonydd Cymru a Chyngor y Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor annibynnol i'r Tasglu ac yn cynnig dealltwriaeth ac yn herio o safbwynt rhanddeiliaid a defnyddwyr. Fel rhan o Gynllun Gweithredu'r Tasglu ar Reoleiddio Amgylcheddol ar gyfer Gorlifoedd Storm, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymgynghorwyr amgylcheddol, Stantec, er mwyn asesu'n annibynnol bolisïau presennol Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy sy'n ymwneud â rheoli Gorlifoedd Storm Cyfun ac archwilio opsiynau polisi amgen.

Heddiw cyhoeddwyd Adroddiad Tystiolaeth Cymru ar Orlifoedd Storm. Nid yw'r adroddiad yn cynnwys argymhellion, yn hytrach, mae'n cymharu costau a manteision gwahanol opsiynau polisi ar gyfer rheoleiddio gorlifoedd storm cyfun. Bydd yr opsiynau hyn yn helpu i arwain y Tasglu wrth ddatblygu targedau cyraeddadwy a fforddiadwy i atal niwed ecolegol yn nyfrffyrdd Cymru. Dim ond un agwedd ar y dull cyfannol rydym yn ei ddefnyddio i wella ansawdd dŵr yw'r Adroddiad – a mynd i'r afael â gorlifoedd storm cyfun – ac mae angen inni flaenoriaethu ein gweithredu er mwyn sicrhau rydym yn cael yr effaith fwyaf posibl. 

Mae ein dull gweithredu, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac effeithiau, hefyd yn cael ei ysgogi'n rhannol gan y rôl anochel y bydd biliau cwsmeriaid yn ei chwarae mewn ymdrechion hirdymor i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr, fel y nodwyd gan yr Adroddiad. Mae angen inni gael cydbwysedd rhwng cymryd camau effeithiol a sicrhau bod biliau'n fforddiadwy, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol. Mae Llywodraeth Cymru yn glir iawn ein bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr ddarparu'r safonau gwasanaeth uchaf i'w cwsmeriaid, a lle mae cwmnïau dŵr yn methu â rheoli llygredd yn effeithiol, rydym yn disgwyl i'r camau gorfodi priodol gael eu cymryd.

Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddiogelu iechyd ein dyfrffyrdd. Ar gyfartaledd, mae’r defnydd dŵr yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd presennol y DU. Os gallwn ddefnyddio llai o ddŵr, gallwn helpu i leihau faint mae angen defnyddio gorlifoedd storm.  Gallwn hefyd helpu i gynnal y rhwydwaith carthffosydd a lleihau rhwystrau drwy beidio â gwaredu gwastraff bwyd neu weips gwlyb yn y system garthffosydd. Mae ymgynghoriad ar gyfer y DU gyfan wedi cael ei lansio yn ddiweddar ar wahardd weips gwlyb sy'n cynnwys plastig.

Mae arnom angen sector dŵr cadarn sy'n cyflawni ar gyfer cwsmeriaid, yr amgylchedd a'r gymdeithas ehangach, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y Tasglu Ansawdd Afon Gwell nawr yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn nodi'r camau nesaf. Yn y cyfamser, mae'r Tasglu wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:

"Rydym yn croesawu cyhoeddi'r Adroddiad Tystiolaeth ar Orlifoedd Stormydd yng Nghymru, sy'n garreg filltir bwysig yn ein Cynllun Gweithredu ar Reoleiddio Amgylcheddol ar gyfer Gorlifoedd Storm. Er nad yw'r adroddiad yn cynnwys unrhyw argymhellion, mae'n nodi cyfres o opsiynau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli gorlifoedd storm yng Nghymru. Er mwyn cyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer rheoli gorlifoedd, nid oes yr un ateb tymor byr; Mae angen inni edrych tua'r dyfodol. Byddwn nawr yn ystyried yn ofalus yr opsiynau er mwyn llunio'r camau nesaf priodol, gan gynnwys sut y gallai'r opsiynau gyd-fynd â'r cynlluniau busnes arfaethedig ar gyfer 2025–30 a gyflwynwyd gan gwmnïau dŵr i Ofwat ar 2 Hydref."