Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch o rannu fersiwn derfynol y Cod Ymarfer ar Fynediad i Safleoedd ac Ymgysylltu ag Unigolion gydag Aelodau.

Sefydlwyd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (‘Corff Llais y Dinesydd’ neu ‘y Corff’, sy’n gweithredu dan yr enw Llais) o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i geisio barn ac i gynrychioli buddiannau’r cyhoedd o ran gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Cod Ymarfer ar Fynediad i Safleoedd yn nodi sut y gall Llais gael mynediad i leoliadau lle mae pobl yn cael gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol i ofyn eu barn, a sut y bydd y gwaith ymgysylltu hwnnw’n cael ei wneud.

Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal proses ymgynghori i gael adborth ar y Cod Ymarfer arfaethedig, gan gynnwys ymgynghoriad penodol gyda Llais ei hun, a hoffem ddiolch i’r rhai hynny a rannodd eu hadborth gwerthfawr gyda ni i hysbysu’r Cod terfynol. Bydd y crynodeb o’r ymateb i’r ymgynghoriad, sy’n ymwneud â’r Cod Ymarfer, y Canllawiau Statudol ar Sylwadau a’r Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd 2023 yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Bydd y Cod Ymarfer yn weithredol o 1 Gorffennaf a bydd yn destun adolygiad ar ôl iddo fod ar waith am un flwyddyn. Rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i bob partner yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i hwyluso rhoi’r cyfle i’r rheini ar safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ymgysylltu â Llais.

Gyda’r Canllawiau Statudol ar Sylwadau, a gyhoeddwyd ar 2 Ebrill, a’r Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd 2023, a gyhoeddwyd ar 9 Mai, mae hyn yn cwblhau’r gyfres o ganllawiau y mae Gweinidogion wedi’u datblygu a’u cyhoeddi i gefnogi gweithredu Llais yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch weld y cyhoeddiad yma: Cod ymarfer i Llais ar fynediad i safleoedd ac ymgysylltu â phobl