Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, gwnaethom nodi’n hymrwymiad i gyflwyno Bil Aer Glân ar gyfer Cymru, a fyddai’n cyd-fynd â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn estyn y ddarpariaeth monitro ansawdd aer.

Mae’n bleser cael cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’n Papur Gwyn ar Fil Aer Glân (Cymru). Rydym yn ddiolchgar iawn am yr wybodaeth fanwl a ddarparwyd, ac a oedd yn dangos y galw gwirioneddol am y ddeddfwriaeth hon a’r ymdeimlad bod angen gweithredu ar fyrder.

Mae ansawdd aer yn effeithio ar bob un ohonom, ym mhob agwedd ar ein bywydau. Dyma'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn effeithio ar ein hamgylchedd ehangach a gall gael effaith sylweddol ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae angen inni roi'r dulliau y mae eu hangen ar bob rhan o gymdeithas i fynd i'r afael â llygredd aer ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae Deddf Aer Glân i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol ein Cynllun Aer Glân i Gymru: Aer Iach, Cymru Iach. Bydd yn caniatáu inni weithio'n well ar draws llywodraeth leol a chenedlaethol, a chyda rhanddeiliaid i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, natur, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd y Bil hefyd yn cefnogi’n cynlluniau ehangach i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Felly, wrth inni ddatblygu’n cynigion, byddwn yn adeiladu ar y cysylltiadau sydd gennym eisoes gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws ystod eang o feysydd polisi, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion i wella gallu llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Daeth 73 o ymatebion i law o amrywiaeth o ffynonellau. Rydym hefyd wedi ystyried y safbwyntiau a ddarparwyd mewn digwyddiad ymgysylltu ar-lein am y cynigion yn y Papur Gwyn, a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021. Yn gyffredinol, roedd yr adborth i’r cynigion deddfwriaethol yn yr ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn. Mae lefel y diddordeb ymhlith ystod eang o randdeiliaid wedi fy nghalonogi’n fawr, a hynny oherwydd bod gan bawb – yn amrywio o unigolion yn eu cymunedau lleol i'r busnesau sy'n sylfaen i economi Cymru – ran i'w chwarae os ydym am gyrraedd ein nodau.

Mae nifer uchel yr ymatebion a dderbyniwyd mewn ymateb i’r Papur Gwyn wedi creu sylfaen werthfawr iawn o dystiolaeth a fydd yn sail i gynigion y Bil Aer Glân. O ystyried lefel yr her rwy’n rhagweld y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn cyflawni camau dewr i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Bydd yr holl adborth defnyddiol rydym wedi’i dderbyn mewn ymateb i’r Papur Gwyn yn ein galluogi i ddatblygu a chreu consensws o ran y cynigion deddfwriaethol a bydd yn ei gwneud hi’n bosibl i gamau gael eu cymryd ar draws Cymru i wella ansawdd yr aer.

Bwriedir cyflwyno'r Bil Aer Glân yn ystod ail flwyddyn tymor y Senedd hon. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam hollbwysig tuag at wireddu’n huchelgais i wella ansawdd aer ac i leihau’r effeithiau negyddol y mae llygredd aer yn eu cael ar iechyd pobl, ar fioamrywiaeth, yr amgylchedd a'n heconomi.

Rydym yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid i ddatblygu a gweithredu'r ddeddfwriaeth bwysig hon ar ansawdd aer.