Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi “Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser”, ochr yn ochr â dogfen fer i’r cyhoedd o’r enw “Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser – Ein Gweledigaeth”, sy’n nodi’r hyn y gall pobl Cymru ei ddisgwyl gan ofal canser y GIG erbyn 2016. Mae mynd i’r afael â chanser a’i ganlyniadau ledled Cymru yn ymrwymiad pwysig yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’i Gynllun GIG pum mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd. Mae gennym raglen uchelgeisiol ar gyfer iechyd gwell a llai o anghydraddoldebau yng Nghymru.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trafod canser ar sawl achlysur. Mae hyn yn adlewyrchu’r effaith sylweddol a gaiff canser ar fywyd unigolyn a’i deulu. Wrth gyhoeddi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, rwyf am adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud. Yma yng Nghymru y cafwyd y cyfraddau goroesi uchaf yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf; mae nifer y bobl sy’n defnyddio rhaglenni sgrinio canser yng Nghymru gyda’r uchaf yn Ewrop. Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn triniaethau ac ymchwil.
Fodd bynnag, mae angen inni fynd cam ymhellach. Mae angen inni, er enghraifft, gynyddu’r cyfraddau goroesi eto fyth, yn enwedig yn ein cymunedau difreintiedig. Rhaid i’r Byrddau Iechyd Lleol arwain y gwaith gyda’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau canser sy’n diwallu anghenion pobl mewn perygl o gael canser neu sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Cynlluniwyd y Cynllun, felly, er mwyn grymuso a galluogi’r GIG i fod yn gyfrifol am arwain y gwaith gyda’i bartneriaid i ddiwallu anghenion pobl mewn perygl o gael canser neu sydd wedi’u heffeithio gan ganser, drwy nodi:
  • y canlyniadau poblogaeth rydyn ni am eu gweld a sut y byddwn yn mesur llwyddiant; 
  • y canlyniadau rydyn ni am eu gweld i bobl o ganlyniad i ofal canser y GIG;
  • sut y caiff llwyddiant y GIG ei fesur a’r lefel perfformiad sy’n ofynnol erbyn 2016 ledled Cymru;
  • themâu i’r GIG weithredu arnynt, ar y cyd â’i bartneriaid, ar gyfer y cyfnod hyd at 2016.

Elfen bwysig o’n gwaith ni yw defnyddio profiad yr unigolyn o ofal canser y GIG er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau gwell. Caiff hyn ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar faint o bobl sydd â Gweithiwr Allweddol i gydgysylltu gofal di-dor a chynllun gofal i asesu, cofnodi a diwallu anghenion pob unigolyn y mae canser yn effeithio arno. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn datblygu arolwg o brofiadau cleifion canser, i’w gyd-ariannu gan Gymorth Canser Macmillan a Llywodraeth Cymru.  
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Diolch yn arbennig i aelodau’r Grŵp Gweithredu Canser, Cynghrair Canser Cymru a Chymorth Canser Macmillan yn arbennig, am eu cyngor a’u mewnbwn wrth gwblhau’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.
Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser hwn i’r GIG, ar y cyd â’i bartneriaid, yn gosod gweledigaeth rymus ar gyfer llwyddiant. Mae’n herio pob sefydliad i gynllunio a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn partneriaeth. Mae Llywodraeth Cymru am weld ein gwaith beunyddiol yn gwella’n barhaus. Nawr yw’r amser i’r Byrddau Iechyd Lleol gymryd yr awenau, gan weithio’n effeithiol gyda’i Hymddiriedolaethau GIG partner, meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optegwyr, Llywodraeth Leol, partneriaid Trydydd Sector ac eraill, i gynllunio a chyflawni gwasanaethau gofal canser y gall Cymru fod yn falch ohonynt, a lle bydd pob unigolyn sy’n cael ei effeithio gan ganser yn well ei fyd o ganlyniad i ofal canser y GIG.