Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi rhoi hawliau plant a phlant wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Mae mynd i'r afael â thlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth i bob Gweinidog yn y llywodraeth hon, ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth.

Mae ein Strategaeth Tlodi Plant yn nodi amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio a buddsoddi yn yr hyn y gwyddom sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i ni. Mae hyn yn cynnwys parhau i gryfhau teuluoedd a chymunedau drwy ein rhaglenni ymyrraeth gynnar ac atal Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, datblygu system Gofal ac Addysg Plentyndod Cynnar ymhellach, gwella cyflogadwyedd a chreu gwaith diogel a theg, gan gynnwys hyrwyddo Cyflog Byw Cymru.

Ymrwymodd ein Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig i ail-lunio’r rhaglenni presennol a ariennir er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Er mwyn cefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym wedi parhau i adolygu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau costau i deuluoedd, hybu incwm a sicrhau bod y buddsoddiad mewn rhaglenni a gwasanaethau sy'n cyfrannu at drechu tlodi yn gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc, yn y tymor byr ac yn yr hirdymor.  

Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar ein bywydau mewn sawl ffordd. Mae canlyniadau Covid-19 i'n heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau wedi bod yn sylweddol.  Mae'r pandemig wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes a'r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi cael eu taro galetaf. Mae'r adroddiad 'Ail-greu ar ôl Covid-19: yr Heriau a’r Blaenoriaethau' a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein blaenoriaethau i helpu i sefydlogi Cymru wrth i ni barhau i fyw gyda’r coronafeirws, atal niwed mwy hirdymor a chynllunio i adeiladu dyfodol newydd. 

Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru'r effeithiau hynny. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae rhanddeiliaid a phartneriaid yn ei wneud i'n gwaith ar dlodi ac mae'r Cynllun Gweithredu rwyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn adlewyrchu'r cyfraniad hwnnw. O ystyried y pwysau ariannol difrifol y mae llawer o deuluoedd yn debygol o fod yn eu profi o ganlyniad i'r pandemig, rydym am ganolbwyntio ar bethau y gallwn eu gwneud nawr. Rydym wedi cytuno ar gyfres o gamau ymarferol y byddwn yn eu cymryd dros y chwe mis nesaf i helpu i teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru i wneud y gorau o’u hincwm, lleihau costau byw hanfodol a darparu cymorth i feithrin eu gwydnwch ariannol. 

Ochr yn ochr â'n hymateb uniongyrchol i'r coronafeirws a’r camau gweithredu a amlinellir yn y Cynllun hwn, rydym hefyd yn gweithio'n gyflym i nodi pa ymyriadau ychwanegol a allai helpu i liniaru lefelau Tlodi Plant yng Nghymru yn y tymor hwy, yn unol â'r blaenoriaethau ail-greu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Bydd rhai o'r camau gweithredu yn y Cynllun yn rhoi'r dystiolaeth a'r data i ni i lywio datblygiad polisi a strategaethau yn y maes hwn yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.

https://llyw.cymru/tlodi-plant-cynllun-gweithredu-pwyslais-ar-incwm-2020-i-2021