Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r datganiad cyntaf o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi a gyhoeddwyd o dan adran 13 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ac mae’n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar sail trawslywodraethol, gan gynnwys polisi yr adran Addysg ac adran yr Economi. Rhagwelir y bydd y datganiad o flaenoriaethau a'r cynllun strategol y bydd angen i'r Comisiwn ei gynhyrchu i fynd i'r afael ag ef yn para am gyfnod o bum mlynedd.

Rhaid i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ymateb i'r Datganiad trwy baratoi cynllun strategol sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni'r blaenoriaethau sydd yn y datganiad hwn.  Rhaid i'r cynllun strategol hwnnw hefyd nodi sut y bydd y Comisiwn yn cyflawni ei ddyletswyddau strategol yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Bydd y Comisiwn yn ymgynghori ar ei gynllun cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo a bwrw ymlaen â gwaith i'w weithredu.

Mae'r Datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnod pan fo'r sefyllfa gyllidebol yn heriol ac rydym yn rhagweld y bydd cynllun y Comisiwn yn adlewyrchu hyn. Bydd cyllid y Comisiwn yn cael ei nodi mewn llythyr ariannu blynyddol.

Mae pum blaenoriaeth sylweddol yn y Datganiad ac nid ydynt wedi'u rhestru ar sail eu pwysigrwydd.

Mae'r flaenoriaeth gyntaf yn ymwneud â gwneud dysgu mor hyblyg â phosibl, cynyddu dysgu oedolion a sicrhau bod anghenion sgiliau sylfaenol yn cael sylw fel bod Cymru yn genedl o ail gyfleoedd.  Yr ail flaenoriaeth yw sicrhau bod y system drydyddol yn un o ansawdd uchel sy'n gwneud pob ymdrech i ragori ac yn cadw ffocws ar ehangu cyfranogiad, lleihau bylchau cyrhaeddiad a gwella tegwch ac amrywiaeth yn y system.

Rhoi'r dysgwr wrth galon addysg yw'r drydedd flaenoriaeth gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn cael eu cefnogi yn ystod eu cyfnod mewn addysg. Er mwyn cyrraedd eu potensial llawn mae angen i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'r holl lwybrau gwahanol sydd ar gael iddynt, gan gynnwys dysgu hyblyg a rhan-amser.   Dylai pob llwybr fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn bedwerydd, bydd cyfraniad parhaus y system addysg drydyddol i'r economi a'r gymdeithas yn gofyn am gydweithredu: cydweithio mewn ymchwil, cydweithio â diwydiant a'r llywodraeth, cydweithio i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr a chydweithio i sicrhau parhad y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan ein darparwyr a'u dysgwyr wrth gyfrannu at y lleoedd y maent wedi'u lleoli ynddynt.

Mae'r flaenoriaeth derfynol yn cydnabod y bydd sefydlu'r Comisiwn yn dasg sylweddol yn ystod oes y datganiad cyntaf hwn a thrwy ei gynnwys fel blaenoriaeth mae'n rhoi lle i'r Comisiwn wneud y gwaith hwn, datblygu ei berthynas â darparwyr ac, am y tro cyntaf, sefydlu systemau data sy'n rhoi darlun o'r system drydyddol gyfan yn hytrach na'r gwahanol sectorau.

Edrychir ar y dyfodol hefyd o ran sut y gellir defnyddio'r data hwn a'r modd y bydd y Comisiwn yn ariannu'r sector i lywio'r system yn strategol, lle bydd cydweithio yn darparu llwybrau dysgwyr cliriach i ddysgwyr ac yn darparu cynnig cenedlaethol sy'n lleihau'r dyblygu rhwng sefydliadau cyfagos.

Rydym ar ddechrau cyfnod newydd a chyffrous i addysg drydyddol yng Nghymru ac mae'r Datganiad hwn o Flaenoriaethau Strategol yn darparu'r cyfeiriad sydd ei angen ar y Comisiwn i'n harwain i'r dyfodol disglair hwnnw.