Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi at ddibenion ymgynghori fersiwn ddrafft o Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel. Mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Wrth fynd ati i ddatblygu a gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd a ddaeth i rym ddiwedd mis Ebrill drwy gyfrwng Deddf Tai (Cymru) 2014, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i anghenion carcharorion er mwyn iddynt fedru osgoi mynd yn ddigartref ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar. Estynnwyd y gwaith hwnnw hefyd i gynnwys anghenion unigolion a gaiff eu cadw yn y ddalfa am gyfnodau byr iawn, a hynny ar ôl gweld bod rhai ohonynt wedi mynd yn ddigartref ar ôl colli eu llety am nad oedd eu landlord yn ymwybodol o’u sefyllfa.

Bydd carcharorion y bernir eu bod, am ryw reswm, yn agored i niwed yn parhau i gael eu hystyried yn bobl ag “anghenion blaenoriaethol” o dan y ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â digartrefedd. Er hynny, yn wahanol i’r ddeddfwriaeth flaenorol, nid yw carcharorion yn cael eu hystyried yn awtomatig yn bobl ag “anghenion blaenoriaethol”. Ein nod yw sicrhau bod pob carcharor ar ei ennill yn sgil y ddyletswydd estynedig ar awdurdodau lleol i helpu pobl a allai fod yn ddigartref ymhen 56 diwrnod. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, rhaid i’r cymorth gael ei gynnig mewn carchardai fel y bo carcharorion yn cael cymorth cyn iddynt gael eu rhyddhau.

Mae gweithgor amlasiantaethol, sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol, yr holl ddarparwyr tai allweddol a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol, wedi datblygu’r Llwybr Cenedlaethol fel y bo modd cynnig cymorth mwy cydgysylltiedig ac effeithiol i garcharorion o ran asesu eu hanghenion o ran tai a dod o hyd i atebion ar eu cyfer. Bydd y Llwybr yn sicrhau bod yr holl garcharorion hynny ag anghenion o ran tai wrth iddynt gael eu rhyddhau yn cael yr un cymorth â phawb arall i naill ai gadw eu llety neu i ddod o hyd i lety arall. Mae dwy elfen wahanol i’r Llwybr, un ar gyfer oedolion ac un ar gyfer pobl ifanc, ac mae rhai gwahaniaethau yn y trefniadau ar gyfer y ddau grŵp hyn.


O ran darparu llety ar gyfer cyn-droseddwyr, mae rhannu gwybodaeth ynglŷn â risgiau yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod modd dod o hyd i’r llety mwyaf priodol ar eu cyfer. Bydd y broses a amlinellir yn y Llwybr yn sicrhau bod gwell gwybodaeth am risgiau ar gael i’n hawdurdodau lleol er mwyn eu helpu i sicrhau bod cyn-garcharorion yn cael eu lleoli mewn mannau priodol ac addas.

Rwyf yn awyddus i glywed barn unrhyw un sydd â diddordeb yn y Llwybr ac yn yr hyn y mae’n ceisio’i gyflawni. Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn cael eu hystyried wrth baratoi’r fersiwn derfynol.

Fy nod yw atal pobl syn cael eu rhyddhau o’r ddalfa rhag mynd yn ddigartref, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael eu hailsefydlu’n llwyddiannus. Mae’r Llwybr yn cynnig fframwaith i’r holl asiantaethau sy’n gweithio yn y maes hwn, a gall sicrhau hyd yn oed mwy o weithio mewn partneriaeth, gan arwain at well gwasanaethau i bob carcharor a hefyd at y cyfle i wneud y defnydd gorau o adnoddau prin, sy’n bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni.

Bydd yr ymgynghoriad am y cynigion hyn yn para 12 wythnos tan 24 Medi 2015. Mae manylion sy’n egluro sut i ymateb i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori ei hun.