Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel.  Mae’r Llwybr, sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau allweddol, yn ddatblygiad newydd pwysig yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i atal digartrefedd ymysg cyn droseddwyr.

Mae atal digartrefedd yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth newydd arloesol sy’n seiliedig ar atal digartrefedd, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella'r gefnogaeth sydd ar gael.  Rydym wedi rhoi sylw penodol i anghenion unigolion cyn iddynt gael eu rhyddhau gyda'r nod o’u hatal rhag dod yn ddigartref a gwella'r broses ailsefydlu ar eu cyfer.  Bydd hyn i gyd yn helpu i leihau'r risg o aildroseddu a bydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.

Mae'r Llwybr yn esbonio sut a phryd y mae pobl sydd wedi’u dynodi'n bobl ddigartref, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar nifer o wahanol gamau yn ystod eu caethiwed, yn cael cymorth. Mae’n esbonio rolau a chyfrifoldebau’r asiantaethau a sefydliadau perthnasol ac, o ganlyniad, bydd yn arwain at ddull gweithredu mwy cydlynus, bydd yn osgoi dyblygu ymdrech ac, yn bwysig iawn, bydd mwy o help ar gael i fwy o bobl.

Mae'r Llwybr eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan rai sefydliadau ers sawl mis. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda phartneriaid yn cydweithio, perthnasoedd yn cael eu meithrin, ac, wrth gwrs, effeithiau cadarnhaol ar y rheini sy’n cael eu rhyddhau o gaethiwed. Mae hefyd wedi’n galluogi i fireinio'r Llwybr cyn iddo gael ei gyhoeddi heddiw.  Rwy’n arbennig o falch o weld bod yr adborth cynnar yn awgrymu bod y Llwybr wedi helpu i leihau achosion o bobl ifanc yn cael eu lleoli mewn llety gwely a brecwast ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae Cymru wedi cael ei chanmol am ei deddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd, ac rwy'n credu bod y Llwybr hefyd yn ein rhoi ar flaen y gad yn y DU o ran beth yr ydym yn ei wneud ar gyfer y grŵp hwn o bobl fregus. Mae llwyddiant y Llwybr yn dibynnu ar gydweithredu effeithiol ac rwy’n disgwyl i bob sefydliad gyfrannu’n llawn.  Ond, rwyf wedi cael fy siomi o’r ochr orau gan yr ymroddiad sylweddol sydd wedi cael ei ddangos gan bob sefydliad, sy’n gysylltiedig â  swyddogaethau datganoledig a heb eu datganoli, yn y gwaith o’i ddatblygu drwy ein Gweithgor Llety ac Ailsefydlu Carcharorion. Mae’r mewnbwn ganddynt wedi bod yn greiddiol i’r gwaith o’i gynllunio a’i ddatblygu, ac edrychaf ymlaen i weld hyn yn parhau. Byddaf yn ysgrifennu at ein sefydliadau partner i ofyn iddynt gadarnhau eu bod am barhau i'w ddefnyddio.

Does dim dwywaith bod llety yn ffactor allweddol ar gyfer helpu i dorri’r cylch troseddu. Mae ein Llwybr yn gyfle pwysig i gael partneriaid i gydweithio’n well eto, a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.  Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith o’i ddatblygu, ac edrychaf ymlaen i weld y  manteision a ddaw yn ei sgil.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.