Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn lansio Polisi Adnoddau Naturiol (PAN) cyntaf Cymru, sef y cam nesaf yn y gwaith o weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru), sy’n torri tir cwbl newydd.

Mae'n hadnoddau naturiol o bwys i bawb a sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn ffodus yma yng Nghymru gan fod gennym adnoddau naturiol helaeth a thirweddau hardd.  Maent yn gwbl ganolog i'n llesiant, ac maent hefyd yn cefnogi'n hiechyd, ein bywoliaeth a diwylliant llewyrchus. Fodd bynnag, ni allwn gymryd hyn oll yn ganiataol. Mae'r dystiolaeth yn glir − mae'n hadnoddau naturiol, ein bioamrywiaeth a'n hecosystemau wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn arwain at newidiadau eisoes, sydd â chanlyniadau real iawn i'n cymunedau.

Mae ecosystemau iach a chydnerth yn ganolog i'n gwaith yn hyn o beth. Maent yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n ein hwynebu, yn ein helpu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd ac i ymdopi ag ef, i fynd i'r afael â llifogydd a llygredd aer, ac i gefnogi iechyd ein cenedl. Mae defnyddio’n hadnoddau naturiol mewn ffordd fwy effeithlon yn esgor ar fanteision hollbwysig, llai o lygredd, llai o wastraff a llai o effaith. O’u defnyddio yn ffordd orau bosibl, byddwn yn ein helpu’n hunain i fod yn gystadleuol yn y dyfodol ac i greu swyddi a chyfleoedd i fusnesau o Gymru mewn marchnadoedd newydd.

Ar ôl inni fynd ati i ymgynghori a cheisio adborth ac ar ôl inni edrych ar ganfyddiadau'n hymarfer ymgysylltu eang, daeth tair blaenoriaeth genedlaethol i'r amlwg ar gyfer rheoli'n hadnoddau naturiol:

  • Cynnig atebion sy’n seiliedig ar natur – cydweithio'n fwy effeithiol â natur i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n ein hwynebu
  • Cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon – a phennu trywydd clir ar gyfer buddsoddi yn y meysydd hynny
  • Gweithredu mewn ffordd sy'n seiliedig ar leoedd – er mwyn ymateb i anghenion a chyfleoedd lleol.
Drwy hoelio sylw ar y blaenoriaethau hyn, byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio ar ein hadnoddau naturiol, fel y nodir yn yr Adroddiad am Gyflwr Adnoddau Naturiol. Bydd hefyd yn ein helpu i wireddu’n Nodau Llesiant. Wrthi inni ddiffinio lle newydd i Gymru yn y byd wrth i’r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach. Y Polisi Adnoddau Naturiol fydd sylfaen ein gwaith ar draws y llywodraeth. Mae amrywiaeth yr ymweliadau y byddaf yn mynd arnynt yr wythnos hon yn dangos pa mor eang yw cwmpas y Polisi Adnoddau Naturiol a pha mor eang yw’r blaenoriaethau sydd ynddo ar gyfer ffermio, cynhyrchu ynni, a'r môr a physgodfeydd.

Yn y pen draw, dim ond drwy gydweithio y gallwn fynd ati i wireddu'r blaenoriaethau cenedlaethol yng nghyd-destun anghenion a chyfleoedd lleol. Y cam nesaf, felly, yw i’r Datganiadau Ardal a fydd yn cael eu paratoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru fynd i'r afael â'r blaenoriaethau ar y lefel leol. Bydd fy ngrŵp Bord Gron ar Brexit a'r gweithgorau yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith hwnnw hefyd.

http://llyw.cymru/topics/environmentcountryside/consmanagement/natural-resources-management/natural-resources-policy

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.