Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill 2022, lansiais ‘Ein rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru’ yn gynllun ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn rhoi braslun o’r amcanion adfer a thrawsnewid ar gyfer gofal a gynlluniwyd yng Nghymru, gyda'r nod o leihau amseroedd aros a symud tuag at wasanaethau diagnostig cynaliadwy erbyn 2026. 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r 'Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg' newydd a oedd yn un o amcanion allweddol y cynllun a lansiwyd y llynedd. 

Mae tua 85% o lwybrau cleifion yn galw am brofion diagnostig. Mae amrediad eang o brofion diagnostig i’w cael sy'n bwysig ar gyfer canfod clefydau a rhoi diagnosis, ac ar gyfer monitro triniaeth cleifion.

Ymhlith y profion hynny y mae dadansoddi samplau gwaed, delweddu meddygol, ac ymchwiliadau sy'n profi i ba raddau y mae gweithrediad organau a systemau'r corff yn bodloni lefelau arferol. Mae enghreifftiau o glefydau ac anhwylderau sy'n ddibynnol ar y profion hyn yn cynnwys canser, clefydau’r galon, clefydau anadlol a chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Drwy ymchwilio yn fanylach i’r angen am wasanaethau diagnostig yn y gorffennol a heddiw, ac i’r angen tebygol yn y dyfodol, mae meysydd wedi’u nodi y bydd angen canolbwyntio’n benodol arnynt er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy a’n bod yn lleihau anghydraddoldeb ar draws Cymru gyfan. Disgrifir y meysydd hyn yn y strategaeth ac maent yn cynnwys gwella mynediad at brofion diagnostig drwy ddatblygu canolfannau diagnostig rhanbarthol, ymchwilio i atebion rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau i wella diogelwch, cyfraddau prosesu ac effeithlonrwydd, a chymorth ar gyfer y gweithlu diagnostig.

Byddaf yn rhoi Datganiad Llafar i'r Senedd brynhawn dydd Mawrth 25 Ebrill pan fyddaf yn rhannu rhagor o wybodaeth a manylion â’r Aelodau.