Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn falch o ddatgan bod ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes wedi’i gyhoeddi. Cyhoeddir yr ymateb ar y cyd â Llywodraeth y DU ac Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig, Gogledd Iwerddon.

Mae hyn yn dilyn yr ymgynghoriad ar y cyd ym mis Mawrth 2021 ac mae adborth o’r ymgynghoriad hwn wedi ei werthuso wrth ddatblygu cynllun terfynol y Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diod.

Yn dilyn cyhoeddi’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad https://www.gov.uk/government/consultations/introduction-of-a-deposit-return-scheme-in-england-wales-and-northern-ireland, y cam nesaf fydd datblygu’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol er mwyn gweithredu’r cynllun.