Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 18 Mehefin, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig Gweinidogol yn dweud y byddwn yn cyhoeddi Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) at ddibenion ymgynghori, a hynny cyn y gwyliau. Cadarnhawyd hyn yn fy natganiad llafar yn y cyfarfod llawn ar 23 Mehefin. Felly, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fod fersiwn ddrafft y Bil wedi ei chyhoeddi.


Mae’r fersiwn ddrafft hon yn datblygu’r hyn a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn, Cynigion Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddais ym mis Mai 2014. Cafodd y papur hwnnw gefnogaeth gref ymhlith y rheini sy’n gweithio gyda dysgwyr. Fodd bynnag, yn ogystal â rhoi’r manylion deddfwriaethol o ran sut y gellid rhoi’r cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn ar waith, mae fersiwn ddrafft y Bil hefyd yn cynnwys nifer o ddarpariaethau newydd. Yn benodol, mae’n nodi darpariaethau newydd ar gyfer gwella sut mae asiantaethau gwahanol yn cydweithio i gynllunio a darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig ar draws y sectorau addysg ac iechyd.


Ochr yn ochr â fersiwn ddrafft y Bil, rwyf hefyd yn cyhoeddi Memorandwm Esboniadol drafft, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft, Nodiadau Esboniadol drafft, ac asesiadau o effaith ar hawliau plant, materion cydraddoldeb a’r Gymraeg. Rwy’n awyddus i sicrhau bod yr holl wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i’r rheini sy’n ymateb i ddarpariaethau arfaethedig y Bil ar gael iddynt, er mwyn eu helpu i ffurfio barn amdanynt. Hefyd, byddaf yn cyhoeddi drafft cyntaf y Cod ADY arfaethedig yn yr hydref 2015 fel rhan o’r ymgynghoriad, a byddai’n ddefnyddiol i’r rheini sydd am ymateb i’r ymgynghoriad ystyried yr wybodaeth sydd ynddo.


Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion yn cynnal amryw o weithgareddau ymgynghori fel sy’n briodol. Yn benodol, byddant yn sicrhau bod sylwadau plant a phobl ifanc yn cael eu nodi drwy’r digwyddiadau ymgysylltu a gynhelir yn ystod tymor yr hydref.

 
Rwy’n hyderus y bydd Aelodau’r Cynulliad ac eraill yn croesawu fersiwn ddrafft y Bil hwn a’r dogfennau cysylltiedig, ac y byddant yn cydnabod y camau sylweddol iawn sydd wedi eu cymryd gyda’r nod o lunio system effeithiol ar gyfer darparu cymorth i’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a chynllunio ar eu cyfer. Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig Gweinidogol blaenorol, rwy’n awyddus i weld y Bil yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad newydd graffu arno’n ffurfiol ar ddechrau ei dymor, a’r gobaith yw creu consensws gwleidyddol yn ei gylch.


Byddwn felly’n ddiolchgar pe gallech ystyried fersiwn ddrafft y Bil hwn yn ofalus, gan roi eich sylwadau arni. Er mwyn sicrhau bod digon o gyfle ichi wneud hynny, bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 18 Rhagfyr 2015.

  

http://llyw.cymru/consultations/education/draft-aln-and-education-tribunal-wales-bill/?lang=cy