Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Datganaf heddiw y caiff Papur Ymgynghori'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 ei gyhoeddi ar 31 Mai 2012.
Wrth lansio'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru ar 29 Medi 2011, cyhoeddais y byddai'r Adolygiad yn ystyried sut y gallwn ni sicrhau bod ein system gymwysterau yn cael ei deall a'i gwerthfawrogi, a'i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn misoedd o gydweithio helaeth â rhanddeiliaid a chasglu tystiolaeth, gwaith a ddechreuodd hydref diwethaf.  Mae'r papur ymgynghori'n amlinellu safbwyntiau'r Bwrdd Adolygu ac yn ceisio adborth gan randdeiliaid ar nifer o gwestiynau cyffredinol a phenodol.  Bydd yr ymatebion yn llywio'r gwaith o ddatblygu adroddiad terfynol y Bwrdd, gan gynnwys casgliadau ac argymhellion, a disgwylir iddo gyflwyno'r adroddiad i mi ym mis Tachwedd 2012.
Bydd yr ymarfer ymgynghori yn para 13 wythnos o 31 Mai i 1 Medi 2012 a bydd yn cynnwys diwrnod tystiolaeth ym mis Gorffennaf.  Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 12 Mehefin i roi diweddariad i'r aelodau ar yr Adolygiad a'r casgliadau sy'n deillio ohono.