Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o gael cyhoeddi Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cwricwlwm Newydd mewn perthynas â Chyfraniadau a Chynefin Cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Mae'r Cylch Gorchwyl yn nodi cylch gwaith ac amcanion y Grŵp a'r cerrig milltir a'r prif bethau y gellir eu cyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys adolygu'r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau BAME, eu cyfraniadau a'u profiadau; cynghori ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd; ac adolygu ac adrodd ar ddatblygiad proffesiynol i gefnogi addysgu yn y meysydd dysgu hyn.

Bydd y grŵp yn cadw ysbryd canllawiau Cwricwlwm Cymru mewn cof, gan ystyried yr egwyddorion a'r cyfeiriad strategol ac eang sydd eu hangen, gan sicrhau'r hyn sy'n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys ar draws pob un o'r meysydd dysgu a phrofiad.

Rwy’n disgwyl i'r grŵp adrodd ar eu canfyddiadau cychwynnol, gan gynnwys argymhellion ar gyfer adnoddau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod erbyn canol yr hydref, a chyflwyno’r adroddiad terfynol yn nhymor y Gwanwyn 2021.

Rwyf hefyd yn falch o nodi bod aelodau'r Gweithgor, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE, yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau ac arbenigeddau.  Mae'r Grŵp mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith, ac i gyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon, a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu hollbwysig hwn.