Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 30 Ebrill 2019 cyhoeddais adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Un o'r camau a gymerais ar unwaith oedd sefydlu Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth. Bryd hynny, cyhoeddais Gylch Gorchwyl yn amlinellu swyddogaeth arfaethedig y panel. Cyhoeddais hefyd ddatganiad pellach ar 23 Mai 2019 yn cadarnhau aelodaeth lawn y panel.

Yn dilyn fy nghyfarfod ar 13 Mai 2019 gyda menywod a theuluoedd a effeithiwyd gan ddarganfyddiadau'r adolygiad, gofynnais i Mick Giannasi, Cadeirydd y Panel, ymgynghori gyda theuluoedd a rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â'r Cylch Gorchwyl er mwyn i bob un ohonynt gael cyfle i roi eu sylwadau ar swyddogaethau arfaethedig y Panel. Rwyf eisiau sicrhau bod lleisiau'r menywod a'r teuluoedd a effeithiwyd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith trosolwg yn ei gyfanrwydd. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses, ac am y gefnogaeth a roddwyd i helpu'r bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Yn gyffredinol, roedd unigolion a sefydliadau yn gymharol fodlon â'r hyn a gynigiwyd, ond cafwyd ychydig o awgrymiadau. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl terfynol i gadarnhau'r prif dasgau a fydd yn cael eu gwneud gan y panel dros y misoedd i ddod.

Ddoe, cynhaliais gyfarfod gyda'r panel ac roeddwn yn falch o glywed bod llawer iawn o waith eisoes wedi'i wneud. Mae hyn yn cynnwys datblygu proses gadarn ar gyfer cynnal adolygiadau clinigol ac ymarfer edrych yn ôl; sicrhau meithrin cysylltiadau effeithiol â theuluoedd a staff; a monitro cynnydd y bwrdd iechyd wrth weithredu cynllun gwella'r gwasanaethau mamolaeth. Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach cyn toriad yr haf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar ddatblygiadau.

Cylch gorchwyl

Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Diben 

Rhoi'r trosolwg* angenrheidiol i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i weithredu argymhellion adroddiad y Colegau Brenhinol yn brydlon, yn agored ac yn dryloyw.

Cylch gorchwyl
  • Sefydlu trefniadau cadarn sy'n rhoi sicrwydd i randdeiliaid bod argymhellion adolygiad y Colegau Brenhinol ac argymhellion cysylltiedig eraill yn cael eu gweithredu gan y Bwrdd Iechyd. Gosod a chytuno ar gerrig milltir a phethau i'w cyflawni, ac olrhain cynnydd yn erbyn y rhain;
  • Sefydlu a chytuno ar broses amlddisgyblaeth annibynnol i gynnal adolygiad clinigol o ddigwyddiadau difrifol 2016-2019 a nodwyd gan y Colegau Brenhinol fel rhai sydd angen eu harchwilio ymhellach. Cynnal ymarfer 'edrych yn ôl' i 2010 a sicrhau bod unrhyw un sydd â phryderon cyfiawn ynglŷn â’u gofal yn cael cyfle i gael adolygiad ohono. Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd ac eraill yn gweithredu ar unrhyw beth a ddysgwyd o'r adolygiadau hyn;
  • Cynghori'r Bwrdd Iechyd ynglŷn â'r camau y mae angen iddo eu cymryd i sefydlu trefniadau meithrin cysylltiadau effeithiol sy'n cynnwys cleifion a staff yn y broses o wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ac ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn gyffredinol yn y Bwrdd Iechyd;
  • Uwchgyfeirio unrhyw faterion neu bryderon a ddaw i'r amlwg yn ymwneud â llywodraethu yn ehangach i'r Bwrdd Iechyd ac i Lywodraeth Cymru fel sy'n briodol;
  • Cynghori'r Gweinidog ynglŷn ag unrhyw gamau pellach y mae'r Panel yn eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau darpariaeth gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar y claf. Dylai hyn gynnwys cyngor am yr angen am unrhyw adolygiadau annibynnol dilynol, ac amseru'r rhain, ac adnabod unrhyw wersi ehangach ar gyfer y GIG yng Nghymru.

*Yr hyn a olygir gennym gyda'r term 'trosolwg' yw cyfuniad o fesurau sy'n deillio yn wrthrychol (gan gynnwys gosod targedau, monitro, craffu, herio, profion realiti, arweiniad, anogaeth a chymorth) sydd o'u cyfuno yn rhoi sicrwydd i'r rhanddeiliaid (gan gynnwys cleifion, staff a'r cyhoedd) bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni'r gwelliannau y mae angen iddo eu cyflawni.