Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw amlinellodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau gwariant cyhoeddus manwl ar gyfer 2015-16, a hynny am y tro cyntaf. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn ystyried y prif oblygiadau ar gyfer Cymru.

Roeddem yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn ystyried gwneud dros £11 biliwn o doriadau pellach yn 2015-16. Yr hyn nad oeddem yn ei wybod tan heddiw, fodd bynnag, yw ble yn union y byddai’r fwyell yn disgyn a beth fyddai hyd a lled yr her sydd o’n blaenau.  

Mae’r cyhoeddiad a wnaed heddiw wedi cadarnhau mai £15.1 biliwn fydd cyfanswm Cyllideb Cymru yn 2015-16. Mae hyn yn golygu ein bod yn wynebu gostyngiad o 2%, mewn termau real, rhwng 2014-15 a 2015-16, ac y bydd cyfanswm ein cyllideb £280 miliwn yn is yn 2015-16, mewn termau real, na’n cyllideb ar gyfer 2014-15. Daw’r toriadau hyn ar ben y rheini rydym wedi gorfod ymdopi â nhw yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant. Erbyn 2015-16 felly, bydd ein Cyllideb £1,680 miliwn yn is, mewn termau real, na’r hyn oedd yn 2010-11. Mae manylion pellach am setliad y gyllideb i’w gweld yn yr atodiad technegol.  

Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o gyllid ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Yn y Cyfarfod Pedairochrog diweddar rhwng y Gweinidogion Cyllid roeddem yn glir mai hybu twf ac amddiffyn swyddi yw’r flaenoriaeth i ni o hyd. Mewn llythyr ar y cyd â Gweinidogion Cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos diwethaf, galwyd ar y Prif Ysgrifennydd i ddarparu rhagor o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith er mwyn hybu twf economaidd ac amddiffyn swyddi. Mae’r cyhoeddiad a wnaed heddiw yn rhoi setliad cyfalaf siomedig i ni, nad yw’n darparu rhagor o gyllid, ac a fydd yn gwneud fawr ddim i hybu’r economi.      

Bydd ein cyllideb gyfalaf ar gyfer 2015-16 draean yn is nag yn 2009-10, mewn termau real.  Ac mae bron £180 miliwn o’n harian cyfalaf, sy’n 12% o’r cyfanswm ac yn uwch nag erioed o’r blaen, yn destun cyfyngiadau sy’n golygu mai dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti y gellir ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu ein bod yn wynebu gostyngiad o fwy na 5% rhwng 2014-15 a 2015-16, mewn termau real, o ran cyllid ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd y cyllid y mae S4C yn ei dderbyn gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn parhau. Mae S4C yn dal i geisio ymdopi ag effaith gostyngiadau sylweddol i’w chyllideb gan Lywodraeth y DU yn ogystal â newidiadau i’w threfniadau llywodraethu. Mae’r ffaith na fydd gostyngiad pellach i’w chyllideb gan DCMS i’w groesawu felly, ac yn golygu y gall y sianel barhau i wneud cyfraniad allweddol at gefnogi’r Gymraeg, yn ogystal â chefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed y Canghellor yn ymrwymo i ymateb i argymhellion Comisiwn Silk yn fuan iawn, a’r ffaith ei fod yn cydnabod ein cynlluniau trawiadol i wella’r M4. Byddaf yn gweithio’n agos gyda’r Prif Ysgrifennydd yn ystod yr wythnosau nesaf wrth inni ddod â’r trafodaethau ar waith Comisiwn Silk ac ar yr M4 i ben yn llwyddiannus.  

Cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud heddiw, roeddem wedi cwblhau adolygiad ar y cyd o batrwm y cydgyfeirio yng nghyllid cymharol Cymru, yn unol â’r datganiad ehangach a wnaethom ar y cyd â Llywodraeth y DU fis Hydref y llynedd. Byddaf yn cyhoeddi manylion pellach am hyn yn nes ymlaen yn yr wythnos.  

Rydym wedi bod yn hollol agored ynglŷn â’r penderfyniadau ariannol anodd sy’n ein hwynebu o ganlyniad i’r heriau ariannol sydd o’n blaenau. Nid yw’r cyhoeddiad a wnaed heddiw yn gwneud y penderfyniadau hyn fymryn yn haws.  

Dim ond rhan o’r stori yw’r cyhoeddiad a wnaed heddiw, fodd bynnag. A ninnau bellach yn gwybod beth fydd ein setliad, yr her i ni yn awr yw rheoli’r ffordd rydym yn cyflawni ein blaenoriaethau o fewn y setliad hwnnw, a sicrhau bod y cynlluniau gwario a gyhoeddir gennym yn yr hydref yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hynny.

Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i reoli effaith y toriadau i’r gyllideb ar bobl ac ar gymunedau ar hyd a lled Cymru. Rydym yn benderfynol o godi ein llais er budd Cymru. 

Atodiad Technegol ynghlwm.