Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi grant ychwanegol gwerth £5.46 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i barhau i ddatblygu a darparu Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru.

Mae datblygu Amgueddfa Bêl-droed i Gymru yn un o brif ymrwymiadau cyfalaf diwylliannol ein Rhaglen Lywodraethu, ac yn sicr nid oes amser gwell i fod yn creu amgueddfa wedi ei neilltuo ar gyfer y gêm, yng nghartref ysbrydol pêl-droed Cymru. Daw'r ymrwymiad cyllid hwn ar adeg pan fo diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru ac yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam yn uwch nag erioed.

Bydd creu amgueddfa yng Nghymru i ddathlu ein treftadaeth bêl-droed yn helpu i adeiladu gwaddol ar ôl i’n cenedl gymryd rhan yng nghystadleuaeth dynion Cwpan y Byd FIFA 2022, gan sicrhau bod ei hanes yn cael ei werthfawrogi a bod straeon yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau o chwaraewyr a chefnogwyr y dyfodol. Gan ganolbwyntio ar themâu fel arddangos Wrecsam fel man geni pêl-droed Cymru, hanes pêl-droed clybiau yng Nghymru, digwyddiadau dramatig ac emosiynol mewn pêl-droed rhyngwladol, ysbryd ac amrywiaeth y gymuned bêl-droed yng Nghymru gan gynnwys cymunedau Cymraeg eu hiaith, diwylliant cefnogwyr, pêl-droed merched, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phrofiadau LHDTS+, bydd yn dod yn lleoliad allweddol ymhlith yr hyn y mae’r Gogledd yn ei gynnig i dwristiaid ac ymwelwyr.

Rwy'n ddiolchgar am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma, drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru.  Ers 2020, mae mwy nag £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi sicrhau bod Curadur Pêl-droed a Swyddogion Ymgysylltu penodedig yn cael eu penodi, bod dyluniadau yn cael eu datblygu hyd at gam 3 RIBA, yn ogystal ag ymgynghoriad ymgysylltu â’r gymuned a’r cyhoedd ledled Cymru i ddatblygu cynlluniau a chynnwys arfaethedig.

Yn wreiddiol, roedd ymrwymiad i ddarparu cyllid ar gyfer y prosiect yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Rydym wedi cytuno ar y buddsoddiad newydd hwn fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw, yn amodol ar amodau a chymeradwyaeth achos busnes llawn, yn golygu y gallwn barhau i ymgysylltu â’r gymuned ac ar draws Cymru gyfan ar y prosiect, gan ddatblygu'r cynnwys, y casgliadau a’r arddangosfeydd hyd at adeg adeiladu ac agor Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru